Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb i weithio yn swyddfa CAFC neu fel rhan o dîm yr ystâd ar sail barhaol neu dros dro anfonwch eich gwybodaeth ymlaen at recruitment@rwas.co.uk

Cydlynydd Marchnata a’r Wasg

(Contract Cyfnod Penodol Cyfnod Mamolaeah)

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Marchnata a’r Wasg sy’n greadigol, dynamig a llawn cymhelliad i ymuno â’n tîm gan chwarae rhan ganolog yn yr hyrwyddo a’r cyfathrebu i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a’i digwyddiadau, yn cynnwys Sioe Frenhinol Cymru, y Ffair Aeaf a’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad. Cyfle llanw yw hwn dros gyfnod absenoldeb mamolaeth.

Cyfrifoldebau Allweddol

Mae’r swydd yn eang ac yn amrywiol; yn cwmpasu pob agwedd ar Farchnata a chysylltiadau cyhoeddus i’r Gymdeithas a’r tri phrif ddigwyddiad a bydd yn cynnwys:

  • Darparu cynllun cyfathrebu dwyieithog a bywiog trwy gyflwyniadau, datganiadau i’r wasg a chylchlythyrau.
  • Cysylltu â’r cyfryngau, y cyhoedd, a sefydliadau partner eraill ac ateb ymholiadau ganddynt.
  • Datblygu Gwefan ac Ap y Gymdeithas yn barhaus.
  • Hwyluso gofynion y wasg mewn digwyddiadau.
  • Cysylltu â swyddogion teledu a radio, a’r wasg.
  • Cynhyrchu ymgyrchoedd effeithiol i feithrin ymgysylltu, gwella proffil y Gymdeithas gyda’r nod o gynyddu refeniw.
  • Cyfle i fod yn arloesol, creadigol mewn cysyniadau gyda’r nod o hyrwyddo pob agwedd ar y Gymdeithas, yn cynnwys digwyddiadau, ymwneud elusennol, recriwtio.
  • Yn llawn dychymyg wrth ddylunio, cyflwyno gyda geirfa ragorol ar gyfer cynnwys o fewn taflenni, adroddiadau, pamffledi ayb.
  • Bod ag ymwybyddiaeth o weithio o fewn cyllidebau a chadw at raddfeydd amser pwysig.
  • Bod â’r gallu mewn cyfathrebu effeithiol gan weithio ochr yn ochr â chroestoriad o bersonél, yn cynnwys dylanwadwyr uchel eu proffil.

Cyflog: £24,000 y flwyddyn
Lleoliad: Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys gydag opsiwn hyblyg/hybrid
Oriau: Llawn amser Gorffennaf 2024 – Awst 2025, i’w drafod

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner dydd ddydd Mawrth 30ain Ebrill 2024.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais cliciwch yma.

Cynorthwyydd Personol i’r Prif Weithredwr

Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Cynorthwyydd Personol profiadol, i roi cymorth Cynorthwyydd Personol/ysgrifenyddol a gweinyddol i’r Prif Weithredwr.

Mae’r Cynorthwyydd Personol yn rhoi cymorth a chefnogaeth weinyddol ar lefel uchel i’r Prif Weithredwr ac i bwyllgorau dynodedig.  Mae’r Cynorthwyydd Personol yn gyfrifol am gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol, fel y nodir isod, i safon broffesiynol uchel, a chadw cyfrinachedd ar yr un pryd.

Prif Gyfrifoldebau

  • Trefnu cyfarfodydd, paratoi agendâu a chymryd cofnodion mewn cyfarfodydd, a sicrhau bod y Prif Weithredwr wedi ei baratoi’n dda,
  • Llunio dogfennau, papurau briffio ac adroddiadau a rhannu gwybodaeth neu gamau gweithredu perthnasol gyda chydweithwyr,
  • Dyfeisio systemau ar gyfer y swyddfa a’u cynnal, gan gynnwys rheoli data’n ddiogel a ffeilio,
  • Sgrinio galwadau ffôn, ymholiadau a cheisiadau, a delio â nhw lle bo hynny’n briodol,
  • Rheoli’r dyddiadur a threfnu apwyntiadau,
  • Delio â gohebiaeth sy’n dod i mewn a drafftio llythyron fel sy’n briodol,
  • Cynorthwyo’r Prif Weithredwr i drefnu digwyddiadau ac achlysuron swyddogol,
  • Gwneud trefniadau teithio a llety ac, weithiau, mynd i gyfarfodydd gyda’r Prif Weithredwr, i gymryd nodiadau a/neu i ddarparu cymorth cyffredinol ayb.
  • Cefnogi’r Prif Weithredwr yn ei rôl fel Ysgrifennydd Anrhydeddus CARAS Cymru,
  • Cefnogi’r Prif Weithredwr trwy weinyddu gwobrau swyddogol CAFC.

Cyflog: £29,000 y flwyddyn
Lleoliad: Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys gydag opsiwn hyblyg/hybrid
Oriau: Llawn-amser

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 hanner-dydd ar 20 Mai 2024.

I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i wneud cais cliciwch yma.

Gweler manylion y pecyn o fuddion a thelerau cyffredinol y swydd yn y ddogfen ategol.