Sir Gâr 2017

Gellwch gael y newydd diweddaraf am gynlluniau codi arian Sir Nawdd Sir Gaerfyrddin 2017 ar eu tudalennau Facebook a Twitter:

    

www.royalwelshmuckandsoil.co.uk


D Brian Jones MBE FRAgS
Llywydd

I Gymro bach sydd wedi’i eni a’i fagu ym myd amaethyddiaeth, ac sydd wedi bod yn aelod brwd o Fudiad y Ffermwyr Ifanc, mae cael fy ethol yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru 2017 yn anrhydedd o’r mwyaf. Carwn ddiolch i bobl Sir Gaerfyrddin am y fraint o gael bod yn Llywydd yn ein blwyddyn fel Sir Nawdd 2017. Gallaf eich sicrhau y gwnaf bopeth posib i ad-dalu’ch ffydd ynof.

Mae arallgyfeirio o gynhyrchu llaeth ac ieir i sefydlu busnes gwasanaeth bwyd, yn dosbarthu cynnyrch bwyd eang i fusnesau ac arlwywyr ledled Prydain wedi rhoi persbectif gwahanol i mi ar y diwydiant amaeth. Amaethyddiaeth yw conglfaen y diwydiant cyflenwi bwyd a diod Cymreig, sy’n werth £6.1 biliwn.

Mae amaethyddiaeth wedi bod wrth galon bywyd Cymreig am ganrifoedd ac yn cyfrannu’n helaeth at economi cefn gwlad. Mae 58,300 o bobl yn cael eu cyflogi naill ai’n llawn amser neu’n rhan-amser ar ffermydd Cymru. Mae dau o bob pum busnes gwledig yn llwyr ddibynnol ar amaethyddiaeth. Mae diwydiant amaeth llewyrchus yn hanfodol i economi a bywyd cefn gwlad. Mae dyfodol ein cymunedau gwledig yn ddibynnol ar y gallu i gadw’n pobl ifanc yng nghefn gwlad. I wneud hyn mae’n rhaid cael gwaith. Gall diwydiant amaeth llewyrchus ddarparu gwaith, sydd yn ei dro yn bywiocáu ac yn cynnal ein cymunedau gwledig. Ar hyn o bryd y  diwydiant cyflenwi bwyd a diod Cymreig yw’r cyflogwr mwyaf yng Nghymru, gan gyflogi 222,400 o bobl.

Mae’r ffermwr yn geidwad cefn gwlad, a’i ofal a’i lafur yn creu darlun hardd y gallwn i gyd ei fwynhau. Mae ffermwyr yn rheoli 80% o dirwedd Cymru ac mae cefn gwlad Cymru yn darparu’r cefndir i’r diwydiant twristiaeth, sy’n werth dros £2.5 biliwn.

Mae bywyd cefn gwlad wedi gallu bod yn gryn her erioed ac mae’r rheolau a’r polisïau niferus sydd ynghlwm ag amaethyddiaeth yn gallu peri rhwystredigaeth. Er hyn, maent yn sicrhau fod y bwyd rydym yn ei gynhyrchu o’r safon uchaf. Credaf y bydd hyn o fantais i ni yn y dyfodol llawn her sydd o’n blaenau.

O ganlyniad i ‘Brexit’ mae’r diwydiant amaeth yn wynebu’r her fwyaf mewn cenhedlaeth ac mae newid mawr yn anochel. Er fy mod yn sicr y bydd ’na sialensau a phroblemau i’w goroesi, rwyf yn argyhoeddedig hefyd y bydd na gyfleon. Mae’n bwysig ein bod yn barod i’w cymryd. Bydd angen gweledigaeth a hyder gan ein harweinyddion o fewn y diwydiant a’r llywodraeth.

Gyda chynnydd rhagweladwy o 35% ym mhoblogaeth y byd i 9.6 biliwn yn 2050, mae’r her o gynhyrchu digon o fwyd i bobloedd y byd yn darparu cyfleon am farchnadoedd newydd.

Credaf fod gan y Sioe ei rhan i’w chwarae hefyd. Fel llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol bydd y Sioe yn ganolog i hybu a marchnata’n cynnyrch a’n diwydiant. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni fynd allan i’r byd i hyrwyddo’n bwyd a’n cynnyrch. Mae Sioe Frenhinol Cymru yn un ffordd ardderchog o wneud hyn.

Sefydlwyd y Sioe fel digwyddiad amaethyddol yn bennaf. Dros y blynyddoedd mae wedi esblygu i adlewyrchu’r newidiadau o fewn amaethyddiaeth a chymdeithas. O ganlyniad mae’r Sioe wedi dod yn rhan annatod o fywyd trigolion cefn gwlad ac yn uno Cymru gyfan mewn ffordd unigryw. Mae’n cryfhau ein hetifeddiaeth ddiwylliannol a’n balchder yn ein cenedl fechan, fel ei bod erbyn heddiw yn bererindod flynyddol i filoedd o bob oed.

Mae cystadlaethau’r ceffylau yn elfen gynyddol boblogaidd a phwysig yn y Sioe. Yn ddi-os Pencampwriaeth y Cobiau Cymreig ar y prynhawn Mercher ‘cysegredig’ yw uchafbwynt y Sioe. Credaf nad oes cystadleuaeth arall a all greu awyrgylch mor drydanol o flaen ‘arena’ orlawn o bobl o bob cwr o’r byd yn gwylio’r digwyddiad unigryw hyn.

Bydd yr arian a gesglir gan Sir Gaerfyrddin yn cyfrannu at stablau newydd a chyfleusterau gwell i’r ceffylau. Carwn ddiolch i dîm gwych a gweithgar Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys saith ardal sirol, CFfI, Pwyllgor Merched, Cyngor Sir Gaerfyrddin ac amryw o gymdeithasau ac unigolion eraill am eu hymroddiad diflino a’u gwaith yn arwain a chydlynu'r holl weithgareddau. Un o’r rhain yw’r digwyddiad ‘Mwd a Phridd’ a gynhelir drwy garedigrwydd Coleg Gelli Aur ar y 24ain o Awst. Mae‘u hymdrechion wedi dod â chymunedau ynghyd a dod ag adloniant a phleser i bobl.

Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i bobl hael Sir Gaerfyrddin am eu cefnogaeth. Gobeithiaf yn fawr y dewch yn llu a llawen i’r Sioe ym mis Gorffennaf ac i’r Ffair Aeaf ar ddiwedd y flwyddyn hefyd. Yn olaf, diolch o galon i Steve Hughson, Prif Weithredwr y Sioe, a hefyd i’w Ddirprwy abl iawn, Aled Jones a’u holl staff am eu gwaith ardderchog.


Georgina Cornock-Evans
Llysgenhades

Mae hi’nfraint ac yn anrhydeddfy mod wedi cael fy newis yn Llysgenhades y Gymdeithas 2017. Rwyf wedi breuddwydio am hyners pan oeddwn yn blentyn ac rwyf wrth fy modd ei fod hefyd yn rhoi’r cyfle imi’n awr i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn ystod ei blwyddyn nawdd.

Rhan fawr o swydd y Llysgenhades yw cefnogi Pwyllgor Ymgynghorol y Sir Nawdd yn eu hymdrechion codi arian.  Yn sicr gwnaed defnydd rhagorol o’m 25 mlynedd o brofiad o chwarae’r delyn yn ystod fy nhymor yn y swydd, ac rwyf wedi bod yn chwarae mewn cyngherddau codi arian, sioeauffasiwn adigwyddiadau eraill.

Rwyf yn chwarae’r delyn yn rheolaidd mewn priodasau a digwyddiadaulleol ac rwyf yn frwd hefyd am ddysgu’r delyn a’r piano. Rwyf yn llywodraethwrysgol yn Ysgol Carreg Hirfaenyng Nghwmann,ble maefy nau blentyn yn ddisgyblion.

SymudaisiHarfordyn 2004 a bûm yn gweithio i Adran GynllunioCyngor Sir Ceredigion, cyn sefydlu busnes peiriannau gyda’m gŵr.  Mae mudiad y CFfIyn agos at fy nghalon a bu felly ers imi ymuno gyntaf yn 1993. Rwyf wedi gorfod cymryd cam yn ôl yn ddiweddar yn fy swydd fel arweinydd clwb CFfI Dyffryn Cothi, oherwydd y llu o ymrwymiadau eraill sydd gennyf, ond rwyf yn helpu’n llawen bryd bynnag y mae’rangen yn codi.

Mae fy ngŵr, Arwel, a minnau yn berchen ar ac yn rhedegdelwriaeth amaethyddol –yn atgyweirio a gwerthu peiriannau amaethyddol.  Fe wnaethom sefydluArwel’sAgri Services Ltd yn 2008 ac mae’r cwmni wedi tyfu gyda help a chefnogaeth ffermwyr ledled Gorllewin Cymru.

Ein cwmniyw’r prif ddeliwr ar hyn o bryd ar gyfer McCormick Tractors, Storth Machinery a Vicon. Rydym ni a’r cwmnïaucysylltiedighyn wedi meithrin cysylltiad agos â digwyddiadau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.  Mae Arwel’sAgri Services Ltd wedi fy nghefnogi ers y dechrau wrth helpu i godi arian i’r Gymdeithas, yn ogystalâgwneud yn siŵr fod CAFC yn mynd o nerth i nerth yn y dyddiau ansicr hyn.

Fy swydd felLlysgenhades yw hyrwyddo a chodi proffil y Gymdeithas, yn ogystal â chodi arian i wella cyfleusterau Maes y Sioe, gydag arian eleni wedi’i glustnodiar gyfer gwelliannau i Ganolfan y Ceffylau.  Felly, rwyf wedi comisiynucerflun o ben ceffyl ar gyfer Canolfan y Ceffylau, wedi’i noddi ar ycydgennyf i acArwel’sAgri Services Ltd ac wedi’i greu gan JR Fabrications, cwmni o SirGaerfyrddin.

Yn olaf hoffwn ddiolch i’m teulu, perthnasau a chyfeillion, ac yn arbennig i’m gŵr, Arwel, a’ndau blentyn, Trystan a Lynwen Delun Mair, am eu cefnogaeth a’u hanogaeth. Rwyf yn ddiolchgar hefyd i’r staff yn CAFC ac i swyddogion ac aelodau’r sir yn Sir Gaerfyrddin, ac yn arbennig i Brian Jones, Llywydd y Gymdeithas yn 2017.  Dymunaf y gorau i Brian a’i wraig Helen.


Meirion Owen
Is Gadeirydd

Mae 2017 eto yn flwyddyn brysur iawn, a phrin fod yna ddiwrnod gwag yn fy nghalendr. Yn ogystal â theithio hyd a lled gydag arddangosiad cŵn defaid a hwyaid y Quack Pack, rydw i yng nghanol y gweithgareddau i godi arian i gefnogi'r hyn a fydd gobeithio, yn flwyddyn lwyddiannus arall i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, yn enwedig gan taw fy sir fy hun, Sir Gaerfyrddin yw’r sir nawdd eleni.

Bûm yn aelod o Bwyllgor CAFC Sir Gaerfyrddin am dros 12 mlynedd, ond eleni rwy’n ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol fel Is Gadeirydd a Chadeirydd pwyllgor lleol fy milltir sgwâr o gwmpas Llanddarog a Llanarthne.

Yng nghanol yr ardal hon, mae Middleton Hall, sydd bellach yn gartref i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ac ar fferm laeth a defaid ar Ystâd Middleton fod cefais fy ngeni. Mae fy ngwraig Glenda a minnau, ynghyd â'n mab Iestyn yn dal i fyw o fewn tafliad carreg o'r Ardd ar ein tyddyn yn Rhos yr Hafod, Llanarthne.

Rwy’n cofio fel ddoe mynychu fy Sioe gyntaf yng nghwmni fy rhieni, a gwell i mi gyfaddef taw’r treialon cŵn defaid wnaeth ddal fy sylw i’r flwyddyn honno, a dyna fuodd fy mhrif elfen i byth oddi ar hynny. Ers i mi gystadlu yn fy nhreial cyntaf yn naw mlwydd oed, prin fuodd yna’r un diwrnod pan na fuodd na chi neu ast ddefaid yn fy ymyl.

Rhyw wyth mlynedd yn ôl, ac wedi wyth mlynedd ar hugain yn gwasanaethu cwmni cydweithredol Amaethwyr Caerfyrddin a Phumsaint, y blynyddoedd olaf fel Rheolwr Masnachol, daeth tro ar fyd yn sgil newidiadau yn y diwydiant amaeth. Roedd y Quack Pack yn mynnu mwy o fy amser ac mi fanteisiais ar y cyfle ynghyd â fy mrawd yng nghyfraith Wynne i sefydlu busnes cyflenwi nwyddau fferm, ‘Hafod Farm Supplies’, gan weithio o gartref. Mae hynny wedi caniatáu hefyd i mi ehangu apêl menter y Quack Pack sy’n golygu perfformio mewn sioeau rhanbarthol a chenedlaethol, yn ogystal â digwyddiadau preifat a chan ddarparu rhaglenni adeiladu tîm a’u haddasu ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid corfforaethol.

Am dros ugain mlynedd mae'r arddangosiad Quack Pack poblogaidd wedi cael sylw amlwg yng nghalendr atyniadau’r prif gylch yn Sioe Frenhinol Cymru. Rwyf wedi bod yn ffodus hefyd i fedru teithio ar hyd a lled y DU gyda’r arddangosiad. Fel aelod oes ac ymddiriedolwr o Gymdeithas Ryngwladol y Cŵn Defaid a chyn Llywydd Cymreig o’r Gymdeithas, rydw i hefyd wedi manteisio ar alwadau i feirniadu treialon ledled y byd, ond am wythnos ym mis Gorffennaf, mae'r byd yn dod i Gymru, ac i Lanelwedd. Felly, pan fyddaf i yn edrych allan o brif gylch y Sioe yn 2017, a chan wisgo fy 'het' fel aelod sy’n cynrychioli Sir Gaerfyrddin ar Gyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,mi fyddaf yn gwneud hynny gydag ymdeimlad o gyflawniad, a chan ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi'r nifer mawr o ddigwyddiadau lleol ar draws y sir sydd wedi sicrhau blwyddyn lwyddiannus arall i’r Gymdeithas.


W.Roy Davies FRAgS
Trysorydd

Fe’m ganed ar fferm fynydd ger Y Drenewydd, ond pan oeddwn i yn 10 oed symudodd y teulu i Dywyn, Meirionnydd pan brynodd fy rhieni fferm laeth. Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Tywyn enillais gymwysterau yn Sefydliad Fferm Glynllifon a Choleg Amaethyddol Seale Hayne yn Nyfnaint.

Yn 1966 ymunais a NAAS (bellach ADAS) yn Swydd Gaer cyn adleoli swyddfa Caernarfon ymhen dwy flynedd. Treuliais bum mlynedd fel Swyddog Amaeth Rhanbarth yn ardal Bangor / Conwy cyn pacio fy magiau a throi eto i gyfeiriad y Drenewydd. Yn ystod fy chwe blynedd yng Ngogledd Orllewin Sir Drefaldwyn a chyn
fy nyrchafu'n Uwch Gynghorydd Amaethyddol ar gyfer ardal Canol Dyfed yn 1978 deuthum yn sylfaenydd ysgrifennydd Cymdeithas Tir Glas Bro Ddyfi.

Derbyniais wahoddiad yn 1985 i ymuno â Banc Midland, HSBC erbyn hyn, fel Rheolwr Amaethyddol Rhanbarthol ar gyfer De Cymru, ac fe ddaliais at y swydd hyd nes i mi ymddeol yn 2002. Mae fy ymwneud â'r diwydiant ffermio, fodd bynnag, wedi parhau ar ôl ymddeol ac wrth edrych yn ôl rwy’n rhyfeddu sut y cefais amser i fynd i’r gwaith!

Bum yn aelod o bwyllgor Sioe Laeth Cymru ers ei sefydlu yn 1989 a chefais yr anrhydedd o fod yn Llywydd arni ym mlwyddyn dathlu’r 25 mlynedd ym mis Hydref 2014. Rwyf wedi bod yn Aelod o Siambr Amaethyddiaeth Caerfyrddin (a sefydlwyd yn 1853), am ddeng mlynedd ar hugain, ac ar ôl dal y swydd o Drysorydd Mygedol am y pymtheg mlynedd diwethaf, cefais y fraint o fod yn Llywydd arni yn 2011-2012. Yn 2000 cefais fy ngwneud yn Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (FRAgS) i gydnabod 35 mlynedd o gyngor i ffermwyr Cymru.

Mae'n fraint i fod yn Drysorydd Mygedol Pwyllgor Ymgynghorol CAFC Sir Gaerfyrddin ac i gynrychioli’r sir nawdd eleni ar Bwyllgor Nawdd CAFC. Doedd Sir Gaerfyrddin ddim am osod targed ariannol penodol i’w hapêl yn 2017 yn gosod. Cytunwyd y byddem yn codi gymaint ag y gallem, gan addunedu i ‘fwynhau ein hunain’ wrth wneud hynny.

Mae Carol - Therapydd Galwedigaethol wedi ymddeol - a finnau wedi bod yn briod am yn agos i hanner can mlynedd. Mae gennym ddau fab, Michael a Mathew ac erbyn hyn bedwar ŵyr. Ar ôl gweithio ar hyd a lled Cymru yn ystod fy ngyrfa mae’r Sioe Frenhinol Cymru yn lle i Carol a minnau i gwrdd â llawer o hen ffrindiau! A phan fydd y Sioe ar ben - a chydag amser gobeithio yn caniatáu - rydw i am ddal i fyny gyda fy hobïau o arddio a physgota, a phwy a ŵyr, efallai agor potel o win da o Ffrainc - nawr ac yn y man. Iechyd da!


Jonathan Hugh Davies MRICS FAAV FRAgS
Ysgrifennydd

Cefais fy nghodi ar fferm laeth Parcnewydd Llanwrda yn rhan uchaf Dyffryn Tywi gan dderbyn fy addysg yn Ysgol Pantycelyn Llanymddyfri. Euthum ymlaen i fynychu Coleg Amaethyddol Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Reading cyn cymhwyso fel Syrfëwr Siartredig ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol.

Treuliais flynyddoedd cynnar fy ngyrfa rhwng 1989 a 1996 gyda'r Bwrdd Marchnata Llaeth, Genus a Milk Marque yng Nghaerfyrddin, Thames Ditton a Newcastle under Lyme. Rhoi cyngor ar ansawdd y llaeth a rheoli cyfrif celloedd somatig oedd fy rôl gyntaf cyn cymryd swydd reoli o fewn Adran y Cwotâu Llaeth yn Thames Ditton a Newcastle under Lyme.

Yn 1997 derbyniais swydd Rheolwr Rhanbarthol De Cymru a Gorllewin Lloegr gyda’r gwasanaeth Cofnodion Llaeth Cenedlaethol [NMR plc] a dod yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn 2013. Mae fy rôl yn cynnwys rheoli'r swyddogaethau gwerthu a marchnata ynghyd â chyflenwi’r gwasanaeth cofnodi llaeth gan dîm o reolwyr rhanbarthol a 400 o gofnodwyr llaeth hunangyflogedig ar draws y DU a Gogledd Iwerddon. Gyda swyddfeydd a labordai yn Chippenham, Stafford, Harrogate, Glasgow a Balliebourough (Iwerddon), mae hyn yn golygu teithio helaeth.

Fe’m gwnaed yn Aelod Cyswllt o Gyngor Dyfarniadau y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (CARAS) yn 2009 a’m dyrchafu yn Gymrawd yn 2014.

Roedd bod oddi cartref am adegau hir yn gynnar yn fy ngyrfa yn golygu taw ychydig o gyfleoedd a gefais i fanteisio ar weithgareddau Mudiad y Ffermwyr Ieuan, er i mi elwa o’r cyfleoedd a gefais i farnu stoc a drama yn ystod fy nghyfnod gyda CFfI Llangadog.

Bûm yn ymwneud â'r Sioe ers yn ifanc iawn ac rwy'n Llywodraethwr Oes o'r Gymdeithas ers 2005. Rwyf wedi bod yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Sir Gaerfyrddin ers 2003 ac yn Ysgrifennydd Mygedol ers 2007. Gwartheg godro yw fy niddordeb pennaf ac rwyf wedi bod yn Stiward yn Adran y Gwartheg Holstein dros gyfnod y Sioe ers 1999.

Ar y cyd gyda fy rhieni rwy'n rhedeg Buches Parcnewydd o wartheg Henffordd a Duon Cymreig gan werthu’r cig i gigydd lleol arbenigol. Rydym yn cadw hyd at 150 o bennau pen ar y fferm. Mae'r holl wartheg yn cael eu rhedeg ar system eang o amaethu ac yn cael eu gorffen oddi ar borfa lle bo hynny'n bosibl.

Rwyf wedi bod yn briod â Bethan Charles-Davies ers 2000 ac mae gennym ddau fab yn eu harddegau, William ac Owain. Mae'r bechgyn yn dwli ar chwaraeon, a rygbi yn arbennig, ac yn chwarae i dimau iau Llandeilo a Llanymddyfri. Mae Owain yn bêl-droediwr brwdfrydig ac yn aelod o garfan Ddatblygu Clwb Dinas Abertawe.

Ers 2015 rwyf wedi bod yn Gyfarwyddwr a Llywodraethwr ar Goleg Llanymddyfri.

Yn ystod y 18 mis diwethaf mae’r cyfleoedd i ddilyn hobi wedi bod yn brin, ond rwy'n ceisio gwneud amser i wylio rygbi naill ai yn Llanymddyfri, Llandeilo neu Llangadog, yn ddibynnol ar ba dîm sy’n chwarae gartref ar y penwythnos.


Gellwch gael y newydd diweddaraf am gynlluniau codi arian Sir Nawdd Sir Gaerfyrddin 2017 ar eu tudalennau Facebook a Twitter: