Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr

Mae’n bleser gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru lansio Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig CAFC ar gyfer 2023-2024.

Mae’r Gymdeithas yn cydnabod yn ddiolchgar iawn gymynrodd hael y diweddar Mr Norman Griffiths, gyda chefnogaeth gan Sir Nawdd Morgannwg 2023.

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth yn anelu at ddarparu rhaglen llawn digwydd o hyfforddiant, mentora, cefnogaeth a chyfarwyddyd dros 3 sesiwn preswyl dwys. Dechreuodd y cyfle i rwydweithio gydag unigolion uchel eu proffil o fewn y diwydiant gyda diwrnod dethol/blasu i ymgeiswyr ym mis Mai 2023.

Wedi’i hanelu at ysbrydoli arweinwyr y dyfodol ym myd amaeth, mae’r rhaglen yn gyfle i ddatblygu sgiliau arwain ar adeg mor bwysig i’n sector.

Yr 11 ymgeisydd llwyddiannus yw (yn nhrefn eu cyfenwau yn ôl yr wyddor) –

Gwenno Davies, Rhuthun

Leena Farhat, Llanfairfechan

Ben James, Llanbedr Pont Steffan

Elin Jenkins, Llanbedr Pont Steffan

Heather Kirby, Wrecsam

Cain Owen, Ynys Môn

Holly Page, Trefaldwyn

Kathleen Taylor-John, Bro Morgannwg

Maria Watts, Aberhonddu

Elen Williams, Castell-nedd

Hannah Wright, Abertawe