Newyddion - Y Gymdeithas

28 Tachwedd 2013 Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn i gneifiwr o Gymru
Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn i gneifiwr o Gymru

Mae un o brif gneifwyr Prydain, Gareth Daniel o Fachynlleth, newydd dderbyn gwobr  tra chwenychedig Personoliaeth Cneifio’r Flwyddyn Lister ar gyfer 2013.

Mae’r wobr, a roddir yn flynyddol gan Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain ac a noddir gan Lister Shearing Equipment Ltd, yn mynd i’r sawl sydd wedi hybu ac annog eraill sydd â diddordeb mewn cneifio ac sydd wedi ennill parch diwydiant cneifio’r Deyrnas Unedig.  Dewisir yr enillydd trwy bleidlais boblogaidd trwy gyhoeddiad cneifio Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain ‘Newsclip’ sy’n cyflenwi’r darllenwyr â ffurflenni enwebu ar gyfer y wobr.

Darllenwch fwy
18 Tachwedd 2013
Enillwyr Bwrsari CAFC

Roedd yr ymgeiswyr ar gyfer Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen Cymdeithas  Amaethyddol Frenhinol Cymru 2014 mor drawiadol fel bod y beirniaid wedi mynd yn groes i’r traddodiad trwy roi’r wobr i ddau o bobl yn lle un.

“Daeth saith o ymgeiswyr ymlaen i’w dewis ac roedd pob un ohonynt yn haeddu mynd i Rydychen,” meddai’r beirniaid yn eu hadroddiad.  “Roedd ein dewis terfynol yn un anodd iawn a’n penderfyniad oedd y dylai dau ohonynt dderbyn y bwrsari y tro hwn.

“Roeddem yn edmygus iawn o’r weledigaeth a oedd gan bawb ar gyfer eu gyrfaoedd a dyfodol eu busnes.  Roedd ganddynt syniadau clir hefyd o ran cyfeiriad amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru yn y dyfodol ac roedd eu brwdfrydedd a’u hegni yn eglur iawn.”

Darllenwch fwy
14 Tachwedd 2013
Gwobr fawr i ffermwr defaid o Sir Fynwy

Mae un o’r gwobrau mwyaf clodfawr yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad eithriadol at ddiwydiant defaid Cymru, wedi’i hennill gan ffermwr o Sir Fynwy, Maurice Trumper o Lanfair Cilgedin, Y Fenni.

Mae Mr Trumper, sydd bellach yn ffermio mewn partneriaeth â’i fab, yn ŵyna dros 1000 o famogiaid bob blwyddyn, yn cynnwys 150 o ddefaid Ile de France.  Eu diadell yw’r fwyaf a’r hynaf o’r brîd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’i gyfraniadau at ddiwydiant defaid Cymru yn ymestyn dros fwy na 50 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi dal cyfres o swyddi trwy Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.  Bu’n gadeirydd Pwyllgor Da Byw Cymreig yr NFU ac yn is-gadeirydd y Pwyllgor Marchnata Da Byw dros Gymru a Lloegr ac yn gadeirydd Cyngor Cymru yr NFU.

Darllenwch fwy
1 Hydref 2013
Aelodau Cyswllt Newydd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yng Nghymru

Mae ffermwr o Ogledd Cymru sydd wedi ennill enwogrwydd rhyngwladol fel bridiwr a hyfforddwr cŵn defaid wedi’i wneud yn Aelod Cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.

Mae Aled Owen o Dŷ-nant, Corwen, wedi cynrychioli Cymru 34 o weithiau mewn Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn erbyn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon.  Mae wedi ennill Pencampwriaeth Genedlaethol Cymru ar dri achlysur, y Brif Bencampwriaeth Unigol deirgwaith a bu’n enillydd Pencampwriaeth Cŵn Defaid y Byd ddwywaith.

Darllenwch fwy
16 Gorffennaf 2013
Ffermwr o Geredigion yn ennill gwobr tir glas

Mae ffermwr llaeth o Geredigion wedi ennill y Gystadleuaeth Ffermio Tir Glas lawn bri ar gyfer 2013, sy’n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru.

Daeth Andrew Owen o Bantygwail, Dihewyd, Llanbed, a oedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan eleni hefyd, i’r brig yn enillydd clir ymhlith cystadleuwyr o bum rhanbarth Cymreig y Cymdeithasau Tir Glas.

Darllenwch fwy
15 Gorffennaf 2013
Sioe Frenhinol Cymru yn penodi Prif Weithredwr Cynorthwyol


Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi penodi Aled Jones, 27 oed, o Landeilo, Sir Gâr yn Brif Weithredwr Cynorthwyol y sefydliad.  Bydd yn ymuno â staff y gymdeithas ym mis Medi, gan weithio ochr yn ochr â Steve Hughson, a gymerodd yr awenau fel Prif Weithredwr newydd Sioe Frenhinol Cymru ym mis Mai.

Yn syrfëwr siartredig a phrisiwr amaethyddol, ymunodd Aled â chwmni Rees Richards a’i Bartneriaid, Syrfewyr Siartredig a Gwerthwyr Tir o Sir Gaerfyrddin, fel gwerthwr tir cynorthwyol yn 2007 a daeth yn bartner yn y cwmni fis Ionawr eleni.

Darllenwch fwy
11 Mehefin 2013
Blwyddyn lwyddiannus arall i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Er gwaethaf y digalondid a achoswyd gan y sôn am ddirwasgiad dwbl fe wnaeth bob un o’r tri digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - yr Ŵyl Wanwyn, sioe’r haf a’r Ffair Aeaf - ddarparu canlyniadau clodwiw eto yn ystod blwyddyn lwyddiannus arall yn ariannol a ddiweddodd gyda gwarged cyffredinol o £89,578.

Darllenwch fwy
11 Mehefin 2013
Cronfa sir nawdd CAFC yn werthfawr iawn

Canmolwyd cefnogwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru trwy hyd a lled Cymru am eu haelioni gan gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y gymdeithas, Mr John T Davies, yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas yn Sir Fôn.

Darllenwch fwy

tudalen 9 o 11