Newyddion - Y Gymdeithas
Roedd yr ymgeiswyr ar gyfer Bwrsari Cynhadledd Ffermio Rhydychen Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2014 mor drawiadol fel bod y beirniaid wedi mynd yn groes i’r traddodiad trwy roi’r wobr i ddau o bobl yn lle un.
“Daeth saith o ymgeiswyr ymlaen i’w dewis ac roedd pob un ohonynt yn haeddu mynd i Rydychen,” meddai’r beirniaid yn eu hadroddiad. “Roedd ein dewis terfynol yn un anodd iawn a’n penderfyniad oedd y dylai dau ohonynt dderbyn y bwrsari y tro hwn.
“Roeddem yn edmygus iawn o’r weledigaeth a oedd gan bawb ar gyfer eu gyrfaoedd a dyfodol eu busnes. Roedd ganddynt syniadau clir hefyd o ran cyfeiriad amaethyddiaeth a chefn gwlad Cymru yn y dyfodol ac roedd eu brwdfrydedd a’u hegni yn eglur iawn.”
Mae un o’r gwobrau mwyaf clodfawr yn amaethyddiaeth Cymru, Gwobr Goffa John Gittins am gyfraniad eithriadol at ddiwydiant defaid Cymru, wedi’i hennill gan ffermwr o Sir Fynwy, Maurice Trumper o Lanfair Cilgedin, Y Fenni.
Mae Mr Trumper, sydd bellach yn ffermio mewn partneriaeth â’i fab, yn ŵyna dros 1000 o famogiaid bob blwyddyn, yn cynnwys 150 o ddefaid Ile de France. Eu diadell yw’r fwyaf a’r hynaf o’r brîd yng Nghymru a Lloegr.
Mae’i gyfraniadau at ddiwydiant defaid Cymru yn ymestyn dros fwy na 50 mlynedd ac yn ystod yr amser hwnnw mae wedi dal cyfres o swyddi trwy Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Bu’n gadeirydd Pwyllgor Da Byw Cymreig yr NFU ac yn is-gadeirydd y Pwyllgor Marchnata Da Byw dros Gymru a Lloegr ac yn gadeirydd Cyngor Cymru yr NFU.
Mae ffermwr o Ogledd Cymru sydd wedi ennill enwogrwydd rhyngwladol fel bridiwr a hyfforddwr cŵn defaid wedi’i wneud yn Aelod Cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol.
Mae Aled Owen o Dŷ-nant, Corwen, wedi cynrychioli Cymru 34 o weithiau mewn Treialon Cŵn Defaid Rhyngwladol yn erbyn Lloegr, Yr Alban ac Iwerddon. Mae wedi ennill Pencampwriaeth Genedlaethol Cymru ar dri achlysur, y Brif Bencampwriaeth Unigol deirgwaith a bu’n enillydd Pencampwriaeth Cŵn Defaid y Byd ddwywaith.
Mae ffermwr llaeth o Geredigion wedi ennill y Gystadleuaeth Ffermio Tir Glas lawn bri ar gyfer 2013, sy’n cael ei rhedeg gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru.
Daeth Andrew Owen o Bantygwail, Dihewyd, Llanbed, a oedd yn rownd derfynol Cystadleuaeth Silwair Cladd Cymru Gyfan eleni hefyd, i’r brig yn enillydd clir ymhlith cystadleuwyr o bum rhanbarth Cymreig y Cymdeithasau Tir Glas.
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi penodi Aled Jones, 27 oed, o Landeilo, Sir Gâr yn Brif Weithredwr Cynorthwyol y sefydliad. Bydd yn ymuno â staff y gymdeithas ym mis Medi, gan weithio ochr yn ochr â Steve Hughson, a gymerodd yr awenau fel Prif Weithredwr newydd Sioe Frenhinol Cymru ym mis Mai.
Yn syrfëwr siartredig a phrisiwr amaethyddol, ymunodd Aled â chwmni Rees Richards a’i Bartneriaid, Syrfewyr Siartredig a Gwerthwyr Tir o Sir Gaerfyrddin, fel gwerthwr tir cynorthwyol yn 2007 a daeth yn bartner yn y cwmni fis Ionawr eleni.
Er gwaethaf y digalondid a achoswyd gan y sôn am ddirwasgiad dwbl fe wnaeth bob un o’r tri digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - yr Ŵyl Wanwyn, sioe’r haf a’r Ffair Aeaf - ddarparu canlyniadau clodwiw eto yn ystod blwyddyn lwyddiannus arall yn ariannol a ddiweddodd gyda gwarged cyffredinol o £89,578.
Darllenwch fwyCanmolwyd cefnogwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru trwy hyd a lled Cymru am eu haelioni gan gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y gymdeithas, Mr John T Davies, yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas yn Sir Fôn.
Darllenwch fwyMae dau frawd sy’n ffermio o Sir Benfro, a enillodd yr anrhydedd unigryw o gael eu gwneud yn Aelodau Cyswllt y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2008, wedi dod yn Gymrodyr yn awr. Mae Michael a Rowland George o Gas-blaidd, Hwlffordd, wedi derbyn Cymrodoriaeth am eu gwaith parhaus fel ffermwyr llaeth yn gwella ac yn mwyhau potensial y fuwch laeth ddu a gwyn, yn arbennig eu buches Brynhyfryd o wartheg Holstein pedigri, a glodforir fel un o’r gorau ym Mhrydain.
Darllenwch fwy