Y rhaglenni allan ar gyfer Sioe Frenhinol CymruMae bron 1300 o ddosbarthiadau a gwobrau arbennig wedi’u rhestru yn y rhaglen dda byw ar gyfer sioe Frenhinol Cymru eleni ym mis Gorffennaf, yn cynnwys dros 300 ar gyfer gwartheg, 435 ar gyfer defaid, 80 ar gyfer moch a 58 ar gyfer geifr. Mae’r dosbarthiadau a’r gwobrau arbennig ar gyfer ceffylau a merlod yn dod yn 374. Mae’r rhaglen wedi mynd allan i 5000 o ddarpar arddangoswyr yn y Sioe bedwar diwrnod.
Mae pymtheg brîd pedigri a phum brîd godro’n rhestredig ar gyfer y sioe yn Llanelwedd, ynghyd â dosbarthiadau ar gyfer anifeiliaid bîff masnachol, a bydd 43 o fridiau o ddefaid, yr arddangosfa fwyaf o’i math yn unrhyw sioe amaethyddol yn y byd, yn sefyll mewn rhes i’w beirniadu.
Darllenwch fwy