Newyddion

30 Mehefin 2013
£2000 Royal Welsh Award for Clwyd stockman

Gwobr £2000 Sioe Frenhinol Cymru i stocmon o Glwyd
Mae Gwobr £2000 Dr Emrys Evans Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a roddwyd eleni i rywun y nodwyd bod ei sgiliau fel stocmon yn eithriadol, wedi’i hennill gan Martin Sivill o Glanrafon, Awen, Llanelwy, Clwyd.

Darllenwch fwy
30 Mehefin 2013
Prif wobr Sioe Frenhinol Cymru yn mynd i gigydd o Gonwy

Mae un o’r busnesau bwtsieraeth mwyaf adnabyddus yng Nghymru, Edwards o Gonwy, wedi ennill Tlws Coffa Syr Bryner Jones 2013, gwobr fwyaf clodfawr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol gangen o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel uchaf o lwyddiant yn y sector dewisedig ac eleni mae wedi mynd i’r cigydd sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus trwy werthu a hyrwyddo cynhyrchion da byw a gynhyrchir yn lleol.

Darllenwch fwy
30 Mehefin 2013
Sioe Frenhinol Cymru – 50 mlynedd mewn lluniau

Mae llyfr sy’n dathlu hanner canmlwyddiant ers i Sioe Frenhinol Cymru ymgartrefu’n barhaol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, ym 1963, wedi’i gynhyrchu gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

Mae’r llyfr 158 tudalen yn olrhain mewn gair a llun ddatblygiad y sioe a thrawsnewidiad maes 176 erw’r sioe yn un o’r rhai gorau yn Ewrop, sy’n creu tua £40m y flwyddyn i economi Canolbarth Cymru.

Darllenwch fwy
20 Mehefin 2013
Bydd ceffylau Lusitano yn disgleirio yn Sioe Frenhinol Cymru

Bydd marchwriaeth glasurol a sgiliau a dull marchogaeth a arferir wrth ymladd teirw o gefn ceffyl ymhlith atyniadau cyffrous y prif gylch yn Sioe Frenhinol Cymru fis nesaf.

Bydd marchogion o Ysgol Crefft Farchogol Portiwgal ar gefn ceffylau Lusitano, un o fridiau ceffylau mwyaf prydferth ac amlddoniog y byd, yn perfformio ddwywaith y dydd dros bedwar diwrnod y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, o Orffennaf
22-25.

Oherwydd eu nodweddion prin mae ceffylau Lusitano yn boblogaidd i’w marchogaeth ar gyfer dressage ac maent yn ddelfrydol ar gyfer pob math o grefft farchogol.  Mae galw amdanynt hefyd ar gyfer neidio, cystadleuaeth y tair camp, gyrru a marchogaeth hamdden.

Darllenwch fwy
11 Mehefin 2013
Blwyddyn lwyddiannus arall i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Er gwaethaf y digalondid a achoswyd gan y sôn am ddirwasgiad dwbl fe wnaeth bob un o’r tri digwyddiad a gynhaliwyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru - yr Ŵyl Wanwyn, sioe’r haf a’r Ffair Aeaf - ddarparu canlyniadau clodwiw eto yn ystod blwyddyn lwyddiannus arall yn ariannol a ddiweddodd gyda gwarged cyffredinol o £89,578.

Darllenwch fwy
11 Mehefin 2013
Cronfa sir nawdd CAFC yn werthfawr iawn

Canmolwyd cefnogwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru trwy hyd a lled Cymru am eu haelioni gan gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y gymdeithas, Mr John T Davies, yng nghyfarfod blynyddol y gymdeithas yn Sir Fôn.

Darllenwch fwy
10 Mehefin 2013
Gwartheg Brown Swiss ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru

Bydd gwartheg Brown Swiss, fel yr un yma sy’n gwisgo cloch buwch, yn ymddangos yn Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.  Yn frîd godro, maen nhw’n hanu o ardaloedd Alpaidd eiraog y Swistir ac maen nhw’n nodedig am eu hiechyd, eu caledwch a’u cynnyrch llaeth uchel.  Dywedir eu bod yn cynrychioli un o’r poblogaethau gwartheg mwyaf yn y byd ac maen nhw i’w cael mewn llawer o wledydd.  Cawsant eu hallforio gyntaf i America yn y 1860au ac maen nhw wedi bod ym Mhrydain am tua 40 mlynedd.  Sefydlwyd cymdeithas y brîd yma yn 1973.

Darllenwch fwy
3 Mehefin 2013
Tomorrow-Today Exhibition

In 2013, the Society is establishing a new high profile exhibition of innovation in agriculture at the Royal Welsh Show.  The Tomorrow-Today Exhibition aims to promote and encourage innovation in UK agriculture and to facilitate the uptake of new technologies by transferring latest research to grass roots level.

Darllenwch fwy

tudalen 37 o 42