Newyddion

13 Mai 2013
Anrhydeddu arloeswr ffermio


Mae ffermwr o Ogledd Cymru, Alwyn Jones, Camaes, Llangernyw, Abergele, wedi’i wneud yn Aelod Cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am ei lefel uchel o allu wrth gadw stoc ar fferm ucheldir yng Nghymru.

Darllenwch fwy
9 Mai 2013
Rhaglen digwyddiadau’r Ŵyl Wanwyn

Mae rhaglen 20 awr o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ymestyn dros benwythnos Mai 18 ac 19 wedi’i chynllunio ar gyfer ymwelwyr â Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Dyma fydd un o’r Gwyliau mwyaf uchelgeisiol i’w chynnal gan y gymdeithas ers iddi ddechrau rhedeg y digwyddiad 13 mlynedd yn ôl fel atyniad i dyddynwyr a charedigion cefn gwlad, garddwyr ac amgylcheddwyr gan mwyaf.  Yn awr, mae’r Ŵyl yn cynnwys y rhain a llawer o ddiddordebau eraill, gan ddenu tua 25,000 o ymwelwyr i fwynhau’r hyn sydd i bob diben yn doreth o adloniant sy’n dechrau am 9.00 y bore ac yn para tan ar ôl 4.00 y pnawn ar y ddau ddiwrnod.

Darllenwch fwy
8 Mai 2013
Tractorau clasurol ar ddangos yn yr Ŵyl Wanwyn

Bydd selogion hen beiriannau yn dod o hyd i ddigon i’w diddori ymhlith y nifer uchaf erioed o 234 o hen dractorau, injans sefydlog a chelfi eraill yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru 2013. Bydd enghreifftiau o dractorau a pheiriannau clasurol sydd wedi’u hadfer yn gariadlon ac a wnaeth unwaith arwain trawsnewidiad amaethyddiaeth o farchnerth i dechnoleg gyfoes heddiw, yno i’r cyhoedd eu gweld am ddau ddiwrnod yr Ŵyl dros benwythnos Mai 18 ac 19 ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Darllenwch fwy
2 Mai 2013
Cystadleuaeth Cymdeithasau Bridiau Gwartheg yn agored i Fridiau Prydeinig Prin a Brodorol

Cystadleuaeth Cymdeithasau Bridiau Gwartheg yn agored i Fridiau Prydeinig Prin a Brodorol

Cattle Breed Society Competition open to Rare & Native British Breeds

 

The Society acknowledges with grateful thanks the sponsorship of this Section by

Mrs Kay Spencer, Honorary Festival Director & BOCM

Darllenwch fwy
29 Ebrill 2013
Sioe Ddofednod yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru


Mae’r hobi o fridio a dangos dofednod yn dod â selogion o bob oed at ei gilydd ynghyd ag amrywiaeth fawr o fridiau Prydeinig traddodiadol ac ecsotig o ddofednod sy’n hanu o wledydd o amgylch y byd.  Gellir gweld llawer o’r bridiau diddorol a chyfareddol hyn gan ymwelwyr â’r Ŵyl, ym mha un y mae tri chant o ddosbarthiadau a gwobrau arbennig i ddofednod ac adar dŵr yn rhestredig.

Darllenwch fwy
25 Ebrill 2013Sioe Styntiau Eithafol - Dydd Iau 30ain o Fai
Sioe Styntiau Eithafol - Dydd Iau 30ain o Fai

Sioe Styntiau Eithafol - Dydd Iau 30ain o Fai


EITHAFOL....cyflwr meddwl yw hynny.

 

Lleoliad Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt, LD2 3SY

Darllenwch fwy
18 Ebrill 2013
Cyffroadau cyflymder uchel i'r Ŵyl Wanwyn

Bydd Motocrós Dull Rhydd (FMX), amrywiad ar y math o Fotocrós ble mae reidwyr beiciau modur yn mynd â’u peiriant trwy neidiau hedegog cyflymder uchel o amryfal hydau ac onglau, ar raglen yr adloniant i ymwelwyr â Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru y mis nesaf.

Bydd Tîm Dull Rhydd Bolddog Lings, sydd wedi ennill clod cenedlaethol, yn darparu cyffroadau eithafol ar gyfer y tyrfaoedd yn yr Ŵyl ar Fai 18 ac 19 ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Darllenwch fwy
12 Ebrill 2013
Gwenyn mêl yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru

Mae gwenyn yn ddolen gyswllt hanfodol yn y gadwyn fwyd. Maent yn peillio ein cnydau a’n blodau gwyllt, ac o’r herwydd yn gwella helaethrwydd a phrydferthwch cefn gwlad. Ond mae’r gaeaf hirfaith, gyda’i dymheredd rhewllyd a’i wyntoedd milain yn dilyn haf a hydref gwlyb y llynedd, wedi arwain at amgylchiadau caled i wenyn gyda chanlyniad hynny’n brinder mêl posibl ac, yn waeth, brinder stoc ifanc iach.

Bydd sut i ddelio â chanlyniad y tywydd gwael maith ymhlith y testunau i’w trafod a’r cyngor i wenynwyr yng Ngŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru y mis nesaf.

Darllenwch fwy

tudalen 35 o 38