Newyddion

1 Mawrth 2014
Sul Fferm Agored

Mae Sul Fferm Agored yn gyfle gwych i bawb, yn hen ac ieuanc, gyfarfod y ffermwyr sy'n tyfu eu bwyd ac yn gofalu am gefn gwlad. Cliciwch yma i gael gwybod mwy

Darllenwch fwy
22 Chwefror 2014
Digwyddiad Arbennig Ci Ifanc y Flwyddyn Cymru (Sioe Gŵn) - Chwefror 22
  Chwefror /
February
Digwyddiad / Event Ffôn / Telephone  
  Sat 22 Welsh Junior of the Year Special Event (Dog Show) 02920 813 402
07980 021 392
 
         
Darllenwch fwy
20 Rhagfyr 2013
Bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn torri costau ac yn cynyddu incwm, medd y cadeirydd

Bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn adeiladu ar ei thraddodiadau ond bydd yn ymorol am wneud yn fawr o gyfle, dileu gwastraff a chynyddu proffidioldeb, meddai cadeirydd y bwrdd, John Davies, wrth aelodau Cyngor y gymdeithas yn Llanfair-ym-Muallt.

Mewn anerchiad yn amlinellu cyfeiriad y gymdeithas yn y dyfodol dan dîm rheoli newydd, dywedodd Mr Davies fod creu llwyfan cyllidol cryf yn rhan hanfodol o’r cynllun busnes.

Darllenwch fwy
20 Rhagfyr 2013
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ethol llywyddes

Mae gwraig i ffermwr o Sir Faesyfed wedi’i hethol yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2014.  Mae Mrs Rhian Duggan o Crossgates, ger Llandrindod, sydd ond y chweched ferch i ddod yn Llywydd y gymdeithas yn y 110 o flynyddoedd ers ei ffurfio yn 1904, yn cymryd y swydd drosodd yn ystod blwyddyn Sir Faesyfed fel y sir nawdd.

Dyma fydd y pumed tro i Sir Faesyfed fod yn sir nawdd ers i’r sioe ymgartrefu ar y safle parhaol yn Llanelwedd yn 1963.

Darllenwch fwy
10 Rhagfyr 2013
Y Ffair Aeaf yn torri sawl record

Roedd y nifer mynychwyr mwyaf erioed, 29,374 a phris uchaf o £7,100 am heffer bîff ifanc yn rhan yn unig o lwyddiant ysgubol 24ain Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, a gynhelir yn flynyddol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Wedi’i disgrifio gan gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, John Davies, fel “achlysur campus a llwyddiant aruthrol,” roedd nifer mynychwyr y Ffair Aeaf yn uwch o 2500 na 2012 a chroesawyd 1300 yn fwy o ymwelwyr i faes y sioe nag erioed o’r blaen ar gyfer y Ffair.

Darllenwch fwy
2 Rhagfyr 2013
28 Tachwedd 2013 Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn i gneifiwr o Gymru
Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn i gneifiwr o Gymru

Mae un o brif gneifwyr Prydain, Gareth Daniel o Fachynlleth, newydd dderbyn gwobr  tra chwenychedig Personoliaeth Cneifio’r Flwyddyn Lister ar gyfer 2013.

Mae’r wobr, a roddir yn flynyddol gan Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain ac a noddir gan Lister Shearing Equipment Ltd, yn mynd i’r sawl sydd wedi hybu ac annog eraill sydd â diddordeb mewn cneifio ac sydd wedi ennill parch diwydiant cneifio’r Deyrnas Unedig.  Dewisir yr enillydd trwy bleidlais boblogaidd trwy gyhoeddiad cneifio Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain ‘Newsclip’ sy’n cyflenwi’r darllenwyr â ffurflenni enwebu ar gyfer y wobr.

Darllenwch fwy
18 Tachwedd 2013
Gwnewch eich siopa at y Nadolig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru

Mae siopa Nadolig yn un o’r atyniadau mawr i ymwelwyr yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru a gydag arwyddion o adferiad economaidd sy’n cyflymu ’does dim angen iddi fod yn Nadolig o gynildeb i helwyr bargeinion sy’n chwilio am anrhegion i gyfeillion a theulu yn y digwyddiad deuddydd yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r Ffair yn digwydd ar Ragfyr 2 a 3 gan adael dim ond 21 diwrnod siopa tan y Nadolig ac eleni mae nifer y stondinau awyr agored yn cael eu cynyddu o 40 y cant.  Bydd rhodfa newydd yn cael ei hagor - rhwng Pafiliwn S4C a’r danffordd - gan greu llwybr cylchol o amgylch maes y sioe.

Bydd bron 400 o stondinau masnach yn y Ffair a bydd amrywiaeth y stondinau, yn cynnwys crefftau, dillad, bwyd, llyfrau, hen bethau, gemwaith ac anrhegion tymhorol o bob math, yn cynnig dewis eang ac atyniadol i siopwyr heb strach y stryd fawr a gyda pharcio am ddim ar stepen y drws.

Darllenwch fwy

tudalen 32 o 42