Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

A hithau’n ganfed sioe i’r gymdeithas, mae un person arbennig sy’n dathlu pen-blwydd mawr iawn  eleni yn dod i ddathlu gyda’r plant bach sy’n ymweld â’r Sioe.

Mae Sali Mali wedi bod yn ffrind i genedlaethau o blant Cymru (a thu hwnt) ers iddi ymddangos yng nghyfrol  Mary Vaughan Jones yn 1969.  Mae’r cymeriad wedi ymweld â’r Sioe yn flynyddol dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf ac wedi ymddangos mewn llyfrau, ar deledu ac mewn cyfres animeiddio.

Mae cariad Sali Mali at anifeiliaid yn cael ei weld yn y llyfrau ac ymhlith ei chylch ffrindiau. Mae’n edrych ymlaen yn fawr at gyfarfod ffrindiau newydd a gweld yr holl fridiau o anifeiliad ar y maes.

Mae Prif Weithredwr C.F.A.C Steve Hughson wrth ei fodd fod Sali Mali wedi cymryd y rôl.

“Mae croesawu Sali Mali fel ein llysgennad ar gyfer plant bach yn atgyfnerthu’n ymrwymiad i ysbrydoli’r cenedlaethau nesaf o arddangoswyr, bridwyr ac ymwelwyr wrth iddyn nhw fwynhau’r holl bethau sydd ar gael ar faes y Sioe. Mae cyflwyno plant bach i fyd amaeth ac anifeiliaid mor bwysig yn yr oes yma ac yn greiddiol i ddatblygiad y gymdeithas a’i dyfodol.

Mae Meirion Davies, Pennaeth Cyhoeddi Gomer yn falch iawn o’r bartneriaeth.

“Mae Sali Mali yn rhan annatod o fywyd plant yng Nghymru a dwi’n siwr wnaiff hi gyflwyno sawl ymwelydd bach newydd i bob agwedd o’r byd gwledig sy’n cael ei ddathlu yn ystod y Sioe yn Llanelwedd.”

Bydd cyfle i blant weld Sali Mali bob dydd ger ardal y Band Stand am 11.00 y bore a 2.00 y pnawn.

Mi fydd hi hefyd yn ymddangos yn adeilad S4C gyda chymeriadau eraill Cyw yn ddyddiol.

Mae dau lyfr newydd Sali Mali wedi eu cyhoeddi eleni, Dathlu gyda Sali Mali gan Ifana Savill, a Straeon Nos Da Sali Mali, cyfrol hardd gan rai o awduron mwyaf adnabyddus Cymru yn cynnwys deuddeg o straeon hudol a chlawr realiti estynedig.  Bydd y ddau lyfr ar werth ar stondin Cyngor Llyfrau Cymru yn ystod y Sioe.