Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Mae beirniaid o Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi dyfarnu i Non Thorne o Sir Benfro ac i Rhys Griffith o Gaernarfon ill dau y cyfle i fynychu Cynhadledd Ffermio Rhydychen fis Ionawr nesaf.

“Daeth pum ymgeisydd ymlaen i’w cyfweld eleni ac fe wnaeth safon yr ymgeiswyr argraff fawr iawn arnom.” meddai’r beirniaid, Menna Evans a Rhys Richards.

“Gwnaed argraff arbennig arnom gan y safon uchel a osodwyd gan bob ymgeisydd a’u cyflawniadau personol hyd yma. Roedd ein dewis terfynol yn anodd iawn ond roedd y ddau ohonom yn cytuno’n llwyr fod brwdfrydedd a gwir awch y ddau ymgeisydd canlynol i fynychu ac i ddysgu yn y gynhadledd yn amlwg iawn.”

Mae Cynhadledd Ffermio Rhydychen, a gynhelir bob blwyddyn yn nechrau Ionawr, wedi ennill bri am drafodaeth gref a siaradwyr arbennig. Mae’r gynhadledd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf o’i bath, sy’n dod â ffermwyr, gwleidyddion, gwyddonwyr ac eraill at ei gilydd i drafod datblygiad y diwydiant amaethyddol yn y dyfodol. Eleni, hanfod y thema “Tyfu Cymdeithas Iach” yw cryfhau’r berthynas rhwng y boblogaeth, y tir a’r bobl sy’n cynhyrchu bwyd y wlad.

I fod yn gymwys ar gyfer y bwrsari rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 25 a 35 mlwydd oed ac yn gweithio yn un o ddiwydiannau’r tir.

Bydd Non a Rhys yn cael eu gwahodd i ysgrifennu erthygl ar gyfer Blwyddlyfr 2021 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a byddant yn derbyn eu bwrsari ar ddydd Llun 25 Tachwedd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru.