Medalau Hir-Wasanaeth CAFC i weithwyr amaethyddol

17 Gorffennaf 2018

Medalau Hir-Wasanaeth CAFC i weithwyr amaethyddol

Bydd chwech o weithwyr amaethyddol o bob cwr o Gymru, sydd gyda’i gilydd wedi rhoi 275 mlynedd o wasanaeth, yn derbyn Medal Hir-Wasanaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i gydnabod eu hymroddiad i’r diwydiant amaethyddol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni.

Y rhai sy’n derbyn medalau eleni yw:

  • Stephen David Adams, 56 oed o Lannor, Pwllheli, sydd wedi gweithio i Richard Thomas Ellis, Carnguwch, Llithfaen, Pwllheli am 40 mlynedd.

  • Michael Derek Bolderston, 58 oed o Ffordun, Y Trallwng, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 43 mlynedd, yn fwyaf diweddar i R E Cookson a’i Fab, Deffryn, Aberriw, Y Trallwng am 4 blynedd.

  • Gwilym Pearce Jones, 67 oed o Lasfryn, Pwllheli, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 52 mlynedd, yn fwyaf diweddar i Mr Williams-Ellis, Ystâd Glasfryn, Pwllheli, am 40 mlynedd.

  • Lewis Owen, 69 oed o Lanafan, Aberystwyth, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 49 mlynedd, yn fwyaf diweddar i Oliver Seeds am 19 mlynedd.

  • Hefin Parry, 65 oed o Dalwrn, Llangefni, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 50 mlynedd, yn fwyaf diweddar i E Ll M & R H T Williams, Dolaugwyn, Bryncrug, Tywyn am 37 mlynedd.

  • Kenneth William George Powell, 65 oed o Crossways, Castellnewydd, Mynwy, sydd wedi gweithio yn y diwydiant am 41 mlynedd, yn fwyaf diweddar i Ymddiriedolaeth Ewyllys JFW McConnel, yn masnachu fel McConnel Farms, Whitehouse Farm, Crossways, Castell-Newydd.