Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn troi’i hwyliau i nofio gwyntoedd newid.

3 Gorffennaf 2018

“Wrth edrych tua’r dyfodol, ein gwydnwch a’n gallu i dderbyn newid fydd ein hallwedd i lwyddiant.” meddai Mr John T Davies yn ei anerchiad i’r aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a gynhaliwyd ar 21 Mehefin.

Yn cael ei groesawu gan Sir Drefaldwyn, Sir Nawdd eleni, yng nghartref hyfryd llywydd eleni, Mr Tom Tudor MBE FRAgS, edrychodd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2018 yn ôl ar flwyddyn lwyddiannus arall, ac ymlaen at Sioe Frenhinol Cymru eleni, dim ond ychydig wythnosau i ffwrdd.

Gyda llawer iawn o newidiadau ar y gorwel, yn wleidyddol ac yn ariannol, roedd yr aelodau a oedd yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn dawelach eu meddwl o glywed bod y gymdeithas eisoes wedi rhoi camau yn eu lle i fwyhau i’r eithaf y cyfleoedd a’r dulliau i gofleidio’r heriau. “Er gwaethaf y cefndir parhaus o ansicrwydd a newid, rydym yn ddiolchgar fod positifrwydd a pherfformiad y gymdeithas a’i digwyddiadau, wrth gwrdd â’n hamcanion elusennol, wedi parhau.” meddai Mr Davies.

“Ein hased fwyaf o hyd yw ein hystâd ac mae’r gymdeithas yn dal i fod yn ymrwymedig i’r buddsoddiad tymor hir ym maes y sioe. Mae gwneud yn siŵr ei fod yn addas i’r diben, gwella’r seilwaith a mabwysiadu technolegau newydd, yn sicrhau ein bod yn gallu manteisio’n llawn ar y cyfleusterau rhagorol ar y safle a chynyddu nifer y digwyddiadau a gynhelir gydol y flwyddyn. Mae’r digwyddiadau hyn nid yn unig o fudd i’r gymdeithas, ond yn cefnogi’r gymuned a’r economi leol hefyd.

“Gan obeithio datblygu portffolio o ddigwyddiadau eraill, ein nod yw creu ‘Maes Cenedlaethol Brenhinol Cymru’.” meddai Mr Davies wedyn. “Trwy weithio gyda sefydliadau megis Croeso Cymru, y tîm digwyddiadau mawr yn Llywodraeth Cymru a Gweinidog Twristiaeth Cymru, rydym yn amlwg yn rhoi maes y sioe ar y map cenedlaethol fel cyrchfan digwyddiadau”.

“Mae’r nod hwn yn ffurfio rhan o’n gweledigaeth tymor hir, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffordd y mae’r gymdeithas yn canfod ac yn rheoli’r risgiau, y cyllid a’r cynllunio i greu strategaeth 10 mlynedd.”

Gan derfynu ar ei thema o newid, dyfynnodd Mr Davies John Maxwell a Williams Arthur Ward “Mae’r pesimist yn cwyno am y gwynt. Mae’r optimist yn disgwyl iddo newid. Mae’r arweinydd yn troi’r hwyliau i’r gwynt.”

Fel bob amser, cydnabuwyd cefnogaeth ac ymdrechion codi arian anhygoel ein siroedd nawdd. Rhoddwyd diolch i Sir Gâr, sir nawdd 2017, y mae’u £528,000 nodedig iawn wedi’i roi tuag at brosiect y Ceffylau, ynghyd â’r arian a godwyd gan Went yn 2015 a buddsoddiad sylweddol gan y gymdeithas, i wneud cyfanswm o £1 miliwn wedi’i wario ar wella cyfleusterau’r ceffylau ar faes y sioe yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Mr Tom Tudor, Llywydd 2018, yn annerch yr aelodau yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Cymru.

Wrth annerch yr aelodau, diolchodd Mr Tom Tudor, Llywydd 2018, i’w wraig, Ann, a’r teulu cyfan am eu cefnogaeth, ynghyd â’i dîm yn Sir Drefaldwyn am eu gwaith caled a’u cefnogaeth yn ystod eu blwyddyn nawdd brysur iawn. Cydnabu hefyd y gefnogaeth gan siroedd eraill a diolchodd iddynt am eu cefnogaeth.  “Mae pawb wedi bod yn gweithio mor galed i wneud tymor Sir Drefaldwyn yn y swydd yn llwyddiant ysgubol.”

“Roedd Digwyddiad Tir Glas y mis diwethaf, a gynhaliwyd yn Carnbwll, Four Crosses, yn uchafbwynt gwirioneddol ein hymdrechion hyd yma ac fe wnaeth Dafydd Jones, Helen Davies a Martin Evans i gyd chwarae rhan enfawr wrth wneud y diwrnod yn llwyddiant ysgubol.

“Bydd yr arian a godir eleni yn cael ei roi tuag at wella’r cyfleusterau ar faes y sioe ar gyfer ein haelodau iau, a bydd yn cynnwys creu Bar Aelodau newydd a gwell, wedi’i adeiladu’n barod at y 100fed sioe yn 2019 gobeithio.”

Rhoddodd Mr Harry Fetherstonhaugh, Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe amlinelliad o’r hyn sydd yn ein haros yn y Sioe sydd ar ddod, a fydd yn cael ei hagor gan ddau o hoelion wyth y gymdeithas, Mr John a Mrs Beryl Vaughan.

“Gydag amaethyddiaeth yn cadw’i lle wrth galon y sioe, rwyf yn falch o ddweud bod nifer y da byw yn cystadlu a’r ceisiadau am stondinau masnach amaethyddol wedi bod yn gryf iawn unwaith eto a byddwn yn hoffi diolch i bob un o’r arddangoswyr a’r rheini o fewn ein strwythur ein hunain sy’n gweithio i wneud yn siŵr fod da byw yn parhau i fod yn ganolbwynt yn ein sioe.” meddai Mr Fetherstonhaugh “Serch hynny, rydym yn rhan o fyd adloniant hefyd ac mae ein rhaglen prif gylch 12 awr orlawn yn cynnig rhywbeth ar gyfer pawb.”

Eleni rydym yn dathlu 100 Mlynedd y Llu Awyr Brenhinol (RAF 100) ac yn cydnabod canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hefyd.” eglurodd Mr Fetherstonhaugh.

“Wrth wneud hynny rydym yn falch iawn o groesawu’n ôl arddangosfa lawn Marchfagnelau Brenhinol y Kings Troop a fydd yn difyrru’r tyrfaoedd gyda’u harddangosfa safon byd ddwywaith y dydd.  Rydym yn edrych ymlaen hefyd at groesawu’n ôl Dîm Arddangos Parasiwtio’r RAF ac eleni bydd gyda ni'r RAF Falcons hefyd.”

“Bydd tros-ehediad gan awyren Hercules C130 yn ffurfio rhan o funud dathlu 100 yr RAF yn y prif gylch ar ddydd Mawrth y sioe, ynghyd â Band Catrodol Catrawd yr RAF, Baner-Sgwadron y Frenhines gyda’u harddangosfa gorymdeithio manwl ac uwch-swyddogion yr RAF. Bydd yr RAF yn bresennol hefyd gyda’u Tîm Ceffylau, a fydd yn cystadlu yn y ras gyfnewid Rhwng Helfeydd, yn erbyn tîm o’r Kings Troop gyda lwc, a ddylai fod yn ddiddorol iawn.”

Bydd Sioe Frenhinol Cymru yn cael ei chynnal ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 23 - 26 Gorffennaf. I gael mwy o wybodaeth am y gymdeithas neu am y sioe ewch i www.cafc.cymru.