Pedwar diwrnod ysblennydd yn Sioe Frenhinol Cymru yn dod i ben

28 Gorffennaf 2017

Mae Sioe Frenhinol Cymru wych arall wedi dod i’w therfyn yn llawer rhy gyflym. Ar ôl mwy na 12 mis o gynllunio, mae’r pedwar diwrnod diwethaf wedi gwibio heibio.

Unwaith eto mae’r sioe wedi gweld tyrfaoedd o selogion hapus y sioe yn heidio yn eu miloedd o bob rhan o’r byd i faes y sioe yn Llanelwedd i ddathlu goreuon amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.

Gwelodd y sioe hon gymysgedd o heulwen haf hyfryd a chawodydd, gan greu’r cymysgedd perffaith o dywydd sioe. Gwelodd y cystadlaethau, fel bob amser, safon uchel iawn o gynigion trwyddynt draw. Dywedir yn aml fod yr arddangosion da byw yn Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa o rai o’r anifeiliaid gorau yn Ewrop ac nid oedd eleni’n eithriad.

Mae Tîm o Bump trawiadol y Natwest ar gyfer bridiau bîff bob amser yn gystadleuaeth y mae cystadlu brwd amdani ac yn un o uchafbwyntiau’r sioe. Roedd gan feirniad eleni, Llywydd 2016  Richard Jones, orchwyl eithriadol o anodd yn dewis y tîm gorau o lond cylch go arbennig o anifeiliaid, ond fe wnaeth y penderfyniad yn y diwedd fod Tîm y Charolais wedi trechu’r lleill o drwch blewyn. Roedd y bridiau godro’n olygfa drawiadol yn y cylch yn ystod y sioe hefyd. Enillwyd Tîm o Bump Marks and Spencer gan dîm destlus o Holsteins o Gymru.

Yn y cyfamser, o amgylch y prif gylch, cafodd y gwylwyr eu diddanu gan bedwar diwrnod cyffrous o ddosbarthiadau ceffylau anhygoel, i gyd yn arwain at y gystadleuaeth brynhawn dydd Iau am y teitl a fawr ddymunir o Brif Bencampwr Ceffylau Sioe Frenhinol Cymru, a feirniadwyd gan yr hyfforddwr ceffylau adnabyddus, Mr Nicki Henderson. Enillydd eleni oedd ceffyl chwaraeon mewn-llaw o’r enw Triple Crown, a oedd yn eiddo i Martin Wood o Newmarket, Suffolk.

Ar ôl iddo wylio’r parêd mawr terfynol yn y prif gylch y prynhawn yma, dywedodd Cyfarwyddwr Anrhydeddus y Sioe, Harry Fetherstonhaugh; “Arhoswn beunydd yn llawn edmygedd o ansawdd yr arddangosion a ddangosir yma, yn Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn. Eleni, unwaith eto, mae’n anrhydedd inni fod â detholiad o rai o’r da byw mwyaf hyfryd a thrawiadol a welir yn unrhyw fan yn Ewrop.”

Serch hynny, nid dim ond yn y cylchoedd beirniadu y mae anrhydeddau Sioe Frenhinol Cymru yn cael eu dyfarnu. Fel yn y blynyddoedd eraill, mae pob diwrnod yn gweld casgliad o fedalau a gwobrau arbennig yn cael eu cyflwyno i enillwyr teilwng o bob rhan o’r sector amaethyddol. Eleni, dyfarnwyd medal dra chwenychedig, sef Medal Aur Sioe Frenhinol Cymru, am y tro cyntaf er 2013, i Gadeirydd y Cyngor, Mr David Lewis. 

Wrth dderbyn ei wobr annisgwyl, dywedodd David Lewis “Rwyf wedi bod ar bob pwyllgor mewn perthynas â’r sioe dros y blynyddoedd a ’doedd dim sôn am fedal aur. Doedd gen i ddim syniad!

“Does dim llawer o bobl wedi derbyn anrhydedd mor glodfawr, ac rwyf bob amser wedi edmygu’r rheini sydd wedi’i derbyn yn y gorffennol. Prin y gallaf gredu fy mod yn cael fy ystyried yn yr un dosbarth â nhw… wn i ddim beth i’w ddweud.”


Prif Bencampwr y Ceffylau
Beirniadwyd gan Mr Nicki Henderson
Triple Crown, ceffyl chwaraeon mewn-llaw yn eiddo i Martin Wood o Newmarket, Suffolk.

Prif Bencampwr y Bîff
Beirniadwyd gan Mr Geoff Riby.
Popes Princess Cleo, buwch Simmental yn eiddo i ac wedi’i magu gan VH & CG Wood o Preston, Sir Gaerhirfryn

Prif Bencampwr y Buchod Llaeth
Beirniadwyd gan Mr Edward Griffiths
Illsbro Goldwyn Kitty 5, buwch Holstein, laethog, wedi dod â llo bedair gwaith neu fwy, yn eiddo i Mr A H Wilson a’i Fab o Aberteifi, Ceredigion

Tîm o Bump Natwest – bridiau bîff
Beirniadwyd gan Mr W R Jones
Tîm o wartheg Charolais Prydeinig yn eiddo i Boden & Davies, Mr & Dr Thomas ac S M Corbett a’i Ferched

Tîm o Bump Marks & Spencer
Beirniadwyd gan Mr Charles Reader
Tîm o fuchod Holstein yn eiddo i Mr A H Wilson a’i Fab, D W & C E Jones Wiltor Holsteins, Mr B Davies, Mr B Yates a’i Fab

Pencampwr Pencampwyr y Defaid
Beirniadwyd gan Mr Jim Aitkin
Mamog Penfrith Beulah, yn eiddo i ac wedi’i magu gan A D & E E Richards o Bumsaint, Sir Caerfyrddin

Prif Bencampwr y Moch
Beirniadwyd gan Mr A Warriner
Gwynys Daffodil, hwch Gymreig, yn eiddo i ac wedi’i magu gan Mr a Mrs H D & E M Roberts o Lithfaen, Gwynedd


Nid yw logisteg cynnal un o’r sioeau amaethyddol mwyaf ei bri yn Ewrop yn rhwydd. Mae byddin fawr o staff a gwirfoddolwyr anhygoel yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y flwyddyn i sicrhau na chaiff ein hymwelwyr eu siomi pan fyddan nhw’n cerdded drwy’r giatiau. Gyda pha faint o bobl sy’n dod bob dydd mae’r fyddin o stiwardiaid fel peiriant sy’n mynd yn esmwyth yn gwneud yn siŵr fod yr holl wasanaethau parcio a theithio yn gweithio’n effeithlon, bod y cystadlaethau’n rhedeg yn esmwyth a bod maes y sioe’n cael ei gadw’n edrych ar ei orau yn ystod yr wythnos.

“Mae’n glod mawr i’r gymdeithas fod gennym staff a stiwardiaid mor ymroddedig a gweithgar” medd y Prif Weithredwr, Steve Hughson. “Dyw sioe o’r maint yma yn syml yn digwydd, ac rwyf yn aruthrol falch o Dîm Sioe Frenhinol Cymru am ei gwneud yn un o’r digwyddiadau gorau o’i math.”

“Mae ein strwythur siroedd nawdd, y grwpiau ymgynghorol a’r stiwardiaid gwirfoddol yn rhan o’r  llwch aur sy’n gwneud ein digwyddiad mor arbennig. Rydym yn wirioneddol falch o’n henw fel ‘sioe'r bobl’.”

Bu hi’n glir iawn eleni fod y digwyddiad yn llawer iawn mwy na ‘dim ond sioe’. Gyda nifer cynyddol o ymwelwyr yn dod o gefndir sydd heb fod yn amaethyddol, mae’r sioe’n chwarae rhan fawr wrth ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cyhoedd a gweithredu fel ffenestr siop i gynnyrch Cymreig. Rydym wrth ein bodd hefyd gyda’r gefnogaeth a’r sylw ychwanegol gan ein partneriaid yn y cyfryngau.

Yn ystod ei anerchiad yn y seremoni agoriadol, mynegodd Carwyn Jones y Prif Weinidog ei edmygedd o’r sioe ac aeth yn ei flaen i egluro ei fod yn credu mai’r rheswm pam fod Sioe Frenhinol Cymru wedi parhau mor llwyddiannus i’w briodoli i’w gallu i fod wedi ehangu ei hapêl dros y blynyddoedd, yr un pryd ag aros yn driw i’w thraddodiadau craidd.

Wedi’i lleoli’n berffaith i weithredu fel llwyfan i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ddod at ei gilydd o bob rhan o’r wlad, mae’r sioe a’r gymdeithas yn chwarae rhan fawr wrth hwyluso trafodaethau a fydd yn llunio dyfodol amaethyddiaeth Cymru a’r economi wledig.

“Wrth wynebu’r ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd sy’n dod, bydd cyflymder newid a’r galwadau ar y diwydiant yn prysuro. Serch hynny, mae’r diwydiant wedi dangos ei allu i arloesi ac addasu yn y gorffennol, gan ddangos ei gyfnerthed.” medd John Davies, Cadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr “Ni fydd y tro hwn ddim gwahanol.”

“Er hynny, yn yr amserau ansicr a newidiol hyn, mae cydweithredu i sicrhau ein bod yn cefnogi’r angen i gynnyrch Cymreig gael y mynediad mwyaf posib at y marchnadoedd allforio presennol a’r marchnadoedd allforio sy’n datblygu yn hanfodol.”

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn dal i fynd o nerth i nerth ac yn cofleidio’r angen i fabwysiadu syniadau newydd ac i symud gyda’r amseroedd yn weithredol mewn modd sy’n parchu ein gwerthoedd traddodiadol.