Myfyrwyr Addawol yn derbyn Gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

25 Gorffennaf 2017

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol a sêr ar eu cynnydd sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.

Derbyniodd pob un o’r myfyrwyr canlynol eu gwobrau yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw, dydd Mawrth 25 Gorffennaf.

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2017 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi’i hennill eleni gan ddau ymgeisydd teilwng iawn: Caitlin Jones o Lanfaethlu, Caergybi, Ynys Môn ac Eifion Jones o Langadfan, Y Trallwng, Powys.

Mae Caitlin yn astudio ar hyn o bryd yn Grŵp Llandrillo Menai (Glynllifon) ac mae Eifion yn astudio yn Grwp NPTC Group. Byddant ill dau yn derbyn tystysgrif a gwobr ariannol ar gyfer taith astudio. 

Mae’r wobr flynyddol, a noddwyd eleni gan Sainsburys, yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau NVQ Lefel III neu’r cyrsiau ND/NC BTEC, tystysgrif/diploma C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheolaeth Ceffylau, Rheolaeth Cefn Gwlad neu gyrsiau rheoli eraill sy’n gysylltiedig â’r tir.

Mae Caitlin yn aelod gweithgar o’r CFfI ac enillodd Aelod Ifanc y Flwyddyn Ynys Môn yn 2016, a Stocmon y Flwyddyn (Ynys Môn) yn 2015 ac yn 2016. Tra oedd hi yn y coleg, cyflwynwyd gwobr Dysgwr y Flwyddyn Lantra 2016-2017 i Caitlin hefyd. Ar ôl gorffen ei chwrs, mae Caitlin yn gobeithio parhau â’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Harper Adams.

Tra’i fod yn y coleg, mae Eifion yn dal i weithio ar y fferm deuluol brysur, ac yn gwneud gwaith tractor i gontractwr lleol, yn ogystal â sefydlu a rhedeg ei fusnes weldio a gwneuthuro ei hun, SEJ Engineering. Am ei fusnes mae Eifion wedi derbyn trydedd wobr yng Ngwobrau Arloesi CBAC 2015 a gwobr gyntaf yng Ngwobrau Amaethyddol Sir Drefaldwyn 2016 am y ffensiwr arloesol y mae ef wedi’i ddylunio a’i wneud ei hun. Ar ôl gadael coleg, mae Eifion yn gobeithio ehangu ei fusnes cynyddol ymhellach.

Ysgoloriaeth Deithio Gwili Jones - Coleg Sir Gâr

Eleni, mae Ysgoloriaeth Deithio Gwili Jones - Coleg Sir Gâr wedi’i dyfarnu i Guto Tomos Jones o Lanwnnen, Llambed, Ceredigion, sy’n enillydd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn hefyd.

Mae Guto newydd gwblhau’i Radd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr, Gelli Aur.  Gradd Sylfaen, a gwblhawyd yn Gymraeg yn bennaf. Mae Guto’n gweithio ar y fferm gartref ble maen nhw’n arbenigo mewn pesgi gwartheg bîff ac ŵyn. Ymwelodd Guto â Seland Newydd fel rhan o daith astudio tair wythnos ym mis Hydref 2016, a dychwelodd i Seland Newydd yn ddiweddarach i gneifio ac mae’n awr yn bwriadu defnyddio’r wobr hon i rannol ariannu astudiaeth fanwl bellach i sut y mae ffermydd Seland Newydd yn gweithredu heb gymorthdaliadau.

Cyflwynwyd Ysgoloriaeth Deithio Gwili Jones - Coleg Sir Gâr yn 2013 er cof am y diweddar Gwili Jones a sefydlodd ei fusnes peiriannau amaethyddol ym Mheniel, Caerfyrddin yn 1947. Mae’r wobr yn annog dysgwyr i chwilota, archwilio a chloriannu gwahanol ddiwylliannau a systemau cynhyrchu a allai fod yn fuddiol yn y maes cyflogaeth a ddewisant.

Mae’r ysgoloriaeth ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd ar hyn o bryd yn astudio unrhyw gwrs yn seiliedig ar y tir o fewn cyfadran astudiaethau diwydiannau’r tir ar gampws Gelli Aur a champws Pibwrlwyd, neu i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus o fewn cyfadran diwydiannau’r tir yng Ngholeg Sir Gâr o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae’r ysgoloriaeth deithio’n amcanu at ehangu gorwelion, a bydd yn cefnogi dysgwyr sy’n dangos y potensial i ailfuddsoddi dysg a gafwyd trwy deithio o fewn diwydiannau’r tir yng Nghymru.

Gwobr Myfyriwr IBERS

Mae’r wobr i’r myfyriwr amaethyddiaeth gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i hennill gan Loree Jones, Llanfair-ym-Muallt, Powys.

Mae Loree newydd raddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd dosbarth 1af mewn Amaethyddiaeth gydag Astudiaethau Busnes ac wedi ennill gwobr y ‘Perfformiad Gorau yn y Cynlluniau BSc Amaethyddiaeth a Gradd yn Gysylltiedig ag Amaeth' hefyd.

Yn aelod o CFfI Maesyfed, bu Loree yn CFfI Cwm Edw ers pan oedd hi’n 13 oed, ac mae hi wedi cystadlu’n rheolaidd mewn cystadlaethau beirniadu stoc, coginio, gosod blodau a siarad cyhoeddus.

“Ers gadael y brifysgol, rwyf wedi cael swydd gyda chwmni peirianneg sifil ac rwyf yn gobeithio cwblhau cwrs meistr tra byddaf yn gweithio” medd Loree. “A minnau’n ferch o Lanfair-ym-Muallt, bu hi’n fraint fawr imi fod wedi derbyn y wobr yma yn Sioe Frenhinol Cymru.”

Rhaid i ymgeiswyr am y wobr fod wedi astudio amaethyddiaeth neu raglen gydag elfen sylweddol o amaethyddiaeth ynddi i lefel gradd, diploma neu dystysgrif a dylent fod wedi’u geni a’u magu yng Nghymru.

Gwobr Myfyriwr Harper Cymry

Mae Gwobr Myfyriwr Harper Cymry, a hyrwyddir ar y cyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Harper Cymry, wedi’i hennill gan Sioned Williams, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych.

Mae Sioned newydd gwblhau’i harholiadau blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Harper Adams ble bu hi’n astudio ar gyfer gradd BSc (Anrhydedd) mewn Rheolaeth Busnes gyda Marchnata. Yn ei swydd fel Llysgennad y Myfyrwyr, mae Sioned wedi cynrychioli Prifysgol Harper Adams mewn digwyddiadau megis Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Ffair Aeaf Cymru a Diwrnodau Agored y Brifysgol. Bu hi hefyd yn aelod o Gymdeithas Hoci Harper Adams, ac yn Ysgrifennydd cymdeithas myfyrwyr Harper Cymru.

Mae Sioned yn mwynhau helpu ar y fferm deuluol a bu ganddi ddiddordeb brwd iawn mewn defaid ers yn blentyn. Mae hi wrthi’n datblygu ei diadell bedigri o famogiaid Texel ei hun ar hyn o bryd. Mae hi’n aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun ac mae’n hi’n cael mwynhad arbennig o gystadlu mewn cystadlaethau beirniadu stoc.

Treuliodd ei blwyddyn lleoliad yn y brifysgol yn CF Fertilisers ble cynigiwyd swydd iddi fel Hyfforddai Graddedig Masnachol.  Ei huchelgais yn y pen draw yw sefydlu ei gwersyllfa ei hun ar fferm.

Wedi’i chyflwyno yn 1999, mae Gwobr Myfyrwyr Harper Cymry yn ceisio annog myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yng Ngholeg Prifysgol Harper Adams i gyfrannu’n llawn at ddatblygu eu potensial  academaidd yn ogystal â’u potensial personol.

Mae’r wobr yn cydnabod myfyrwyr gyda’r yrfa academaidd orau wedi’i chyfuno â chyfraniad cadarnhaol iawn at amgylchedd dysgu myfyrwyr ehangach y coleg trwy’i glybiau a’i gymdeithasau neu drwy weithgareddau eraill. 

Mae’r wobr hefyd yn cwmpasu cyfraniad y myfyriwr at weithgareddau Harper Cymry, y clwb yn y coleg ar gyfer myfyrwyr o Gymru. Yn ogystal, mae’r beirniaid yn chwilio yn y cyfweliad am y myfyriwr sydd â’r cynlluniau a’r potensial gyrfa y meddyliwyd amdanynt orau.

Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips

Mae gwobr gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fyfyrwyr er cof am y diweddar Dr Richard Phillips, cymeriad blaenllaw mewn addysg amaethyddol yng Nghymru, wedi’i hennill gan James Price, Llanandras, Powys.

Dyfarnwyd gradd BSc (Anrhydedd) Dosbarth 1 mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth i James ym Mehefin 2017. Fel rhan o’i gwrs gradd pedair blynedd o hyd treuliodd flwyddyn yn gweithio ar ffermydd bîff a defaid yn Seland Newydd ac mae’n benderfynol o ddefnyddio llawer o’r hyn y mae wedi’i ddysgu ar y cwrs ac wedi dod ar ei draws yn ystod ei amser yn Seland Newydd ar y fferm gartref ger Llanandras.

Mae James yn treulio cymaint o amser ag y gall yn gweithio ar ei fferm gartref, sy’n cadw gwartheg bîff a defaid, ac i ffermwyr lleol eraill. "Mae gennyf gariad at ffermio, yn arbennig da byw, a dyma’r unig yrfa yr wyf wedi’i chwennych erioed," meddai. Yn cynrychioli CFfI Llanandras, mae ef wedi ennill cystadleuaeth stocmon iau y flwyddyn ffederasiwn y sir a bu’n drysorydd y clwb.

Mae’r wobr flynyddol, a wneir yn bosibl gan haelioni teulu Dr Phillips, yn agored i fyfyrwyr sy’n  graddio o adrannau amaethyddol prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Roedd yna saith ymgeisydd am y wobr o £150 eleni.

Caiff y myfyrwyr eu dewis ymlaen llaw gan benaethiaid yr adrannau amaethyddol ac mae gan y naill brifysgol a’r llall yr hawl i gyflwyno hyd at bedwar o fyfyrwyr amaethyddiaeth neu bynciau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.

Mae’r dethol terfynol wedi’i seilio ar werthusiad o bersonoliaeth y myfyriwr, gwybodaeth ymarferol am amaethyddiaeth a’i ddefnydd, dyfnder gwybodaeth o’r gwyddorau amaethyddol, yr oblygiadau economaidd a rôl amaethyddiaeth yn y dyfodol.

Ysgoloriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae ysgoloriaeth gwerth £3,000 gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i annog myfyrwyr i ddatblygu eu potensial trwy gyrhaeddiad academaidd fel eu bod yn gallu gwneud cyfraniad mwy effeithiol at y diwydiant amaethyddol wedi’i dyfarnu i David Lloyd Rees, Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bwriad yr Ysgoloriaeth, a noddir gan Waitrose, yw helpu myfyrwyr o Gymru sydd wedi cymryd eu Diploma Cenedlaethol Uwch neu radd sylfaen mewn coleg amaethyddol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Mae David wedi’i fagu ar fferm gymysg tri chan erw sy’n cadw gwartheg llaeth, gwartheg bîff a defaid yn Llangynwyd ac er yn blentyn bu ganddo ddiddordeb arbennig yn y gweithgareddau ffermio.

Mae ef bob amser wedi helpu ar y fferm gartref ac fe wnaeth brofiad gwaith ar fferm gyfagos hefyd yn ystod ei flynyddoedd yn yr ysgol. Yn 2014 fe’i derbyniwyd i Brifysgol Harper Adams i astudio ar gyfer gradd Wyddoniaeth Sylfaen mewn Amaethyddiaeth a gyda honno bellach wedi’i chwblhau, a gyda’i ddyhead brwd i barhau i wella’i wybodaeth, mae’n awr wedi penderfynu mynd yn ei flaen i astudio am radd BSc Anrhydedd mewn Amaethyddiaeth yn Harper Adams.

Yn ystod ei astudiaethau gradd Sylfaen fe wnaeth David flwyddyn lleoliad ar fferm laeth a defaid ger Morecombe yn Swydd Gaerhirfryn ble bu’n cynorthwyo wrth ofalu am 420 o fuchod godro a 250 o ddefaid Beltex. Bu’n weithiwr eiddgar a diwyd iawn a thrwy’i ymdrechion fe’i dyfarnwyd yn ail ar gyfer Gwobr y Nat West ar gyfer Lleoliad a oedd yn cael ei weinyddu gan y Brifysgol.

Mae gan David lawer o ddiddordebau a rheini’n rhai amrywiol. Yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr mae e’ wedi cynrychioli ei glwb mewn cystadlaethau megis siarad cyhoeddus, dadlau, beirniadu stoc a thynnu rhaff ac mae wedi mynd ymlaen i gystadlu ar lefel sir a lefel Cymru mewn sawl achos. Mae wedi ennill Cwpan yr Aelod Iau Gorau i Glwb Pen-y-bont ar Ogwr dair blynedd yn olynol ac i Forgannwg ar ddau achlysur.

Uchelgais David ar ôl cwblhau ei astudiaethau yw dychwelyd ymhen amser i’r fferm gartref a ’does gan y beirniaid ddim unrhyw amheuon y bydd e’n gwneud defnydd rhagorol o’r wybodaeth y bydd wedi’i hennill yn y Brifysgol. Fe wnaethant ei gynghori fodd bynnag i gymryd pob cyfle i ehangu ei orwelion hyd yn oed ymhellach cyn dychwelyd ymhen amser i’r fferm gartref.