Ymgeiswyr wedi’u rhoi ar restr fer ar gyfer Gwobr Goffa Syr Bryner Jones 2017

7 Gorffennaf 2017

Fel gwobr fwyaf blaenllaw Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, mae cystadlu brwd am Wobr Goffa Syr Bryner Jones flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gyda cheisiadau arbennig o 10 sir ar draws Cymru, roedd gorchwyl y beirniaid yn un anodd wrth iddynt eu cwtogi i bedwar ymgeisydd teilwng iawn. Unwaith eto, ni fydd enillydd terfynol gwobr chwenychedig eleni’n cael ei ddatgelu tan Sioe Frenhinol Cymru, ble bydd y pedwar cystadleuydd a roddwyd ar y rhestr fer a’u teuluoedd yn mynychu cyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe i glywed yr enillydd yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.            

Fe wnaeth Syr Bryner Jones helpu i lywio cyfeiriad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru am 50 mlynedd, bu’n Gomisiynydd Amaethyddol Cymru ac wedi hynny daeth yn Ysgrifennydd Cymreig y Weinyddiaeth Amaeth. Roedd yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 1954, blwyddyn jiwbilî aur y gymdeithas.

Er 1957 mae’r wobr wedi’i rhoi bob blwyddyn i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel llwyddiant uchaf yn y sector a ddewiswyd. Eleni roedd y beirniaid yn chwilio am  unigolyn sydd wedi gwneud ac yn parhau i wneud cyfraniad arbennig at y Diwydiant Llaeth yng Nghymru.

Oherwydd maes eang y teitl, sy’n cwmpasu o’r fferm i’r cynnyrch gorffenedig, canfu’r beirniaid fod gwneud y penderfyniadau yn eithriadol o anodd. “Roedd hi’n gryn her beirniadu cystadleuwyr mor amrywiol yn eu maes arbenigedd, o eneteg i reoli buchesi mawr a chymedrol eu maint, arbenigedd organig, prosesu llaeth a marchnata cynnyrch.” meddai’r beirniaid, Mansel Raymond MBE FRAgS a Gareth Roberts FRAgS. “Roedd gan bob un o’r 10 y gallu i drosglwyddo gwybodaeth i’r genhedlaeth nesaf.”

“Roedd y rhan fwyaf o’r cystadleuwyr yn weithgar iawn yn eu cymunedau gwledig hefyd, gan roi o’u hamser yn hael i amrywiol gymdeithasau a sefydliadau eraill ar draws Cymru. Mae llawer yn gweithio’n galed iawn trwy’u priod undebau wrth lobïo eu meistri gwleidyddol ar faterion ffermio a materion gwledig. 

“Roeddem yn teimlo bod pob un o’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yr un mor rhagorol. Yr unig gasgliad wrth arsylwi yw eu bod yn cynrychioli pedwar darn o frethyn o’r un ansawdd rhagorol – dim ond eu bod o bedwar lliw gwahanol. Bu ein penderfyniad terfynol yn arbennig o anodd.”

Yn nhrefn yr wyddor, dyma’r pedwar ymgeisydd ar y rhestr fer:

Mr Laurence R Harris, Ffosyficer, Aber-cuch, Boncath, Sir Benfro

Ers cymryd y fferm deuluol drosodd yn 1975, mae Mr Harris a’i wraig wedi datblygu busnes llaeth teuluol mawr.  Erbyn hyn maent yn ffermio 3,000 o erwau i gyd, a hynny’n organig, gyda 650 o fuchod godro, stoc ifanc, gwartheg bîff o deirw Henffordd wedi’u magu gartref a diadell ddefaid o 2,000 o bennau.

Yn 2002 symudodd y busnes i brosesu llaeth dan gontract a diodydd llaeth arbenigol yn cael eu gwerthu mewn pecynnau cyfleus, dan yr enw cynnyrch Daioni.  Gwerthir y llaeth drwodd i Gwmni Cydweithredol OMSCO (The Organic Milk Suppliers Co-Operative) ble bu Mr Harris yn aelod er 2002. Mae cynhyrchion Daioni yn frand sy’n cael ei adnabod ledled y byd. Gwerthir cynhyrchion llaeth organig UHT Daioni ar gyfer coffi mewn siopau Pret a Manger yn Hong Kong ac fe’u cyflwynwyd yn ddiweddar yn holl Siopau Coffi Pret a Manger yn Ffrainc. 

Yn wreiddiol, byddai’r holl brosesu llaeth UHT yn cael ei wneud yng Nghymru, ond er 2015 mae prosesu a pharatoi cynnyrch UHT Daioni yn digwydd yn awr trwy ddefnyddio llaeth o gyflenwadau organig OMSCO yn Credition, Dyfnaint. Canlyniad yr holl ddatblygu hwn yw system fusnes gyda Trioni Ltd, y cwmni rheolaethol gyda Mr Harris yn Gadeirydd a’i wraig Eira. Caiff cynhyrchion llaeth organig ag iddynt frand eu gwerthu gan Daioni Wales i siopau yn y Deyrnas Unedig ac i Daioni Hong Kong Ltd, gyda’r mab Ben yn Gadeirydd, ac yn gwerthu i Hong Kong, Shanghai a Fietnam. Caiff cynhyrchion UHT eraill Daioni eu hallforio i’r Dwyrain Canol, yr Emiradau Arabaidd Unedig, ac yn ddiweddar i Ffrainc. Ar ben hynny, mae 1 miliwn litr o laeth organig ffres Daioni yn cael ei werthu trwy lawer o siopau ar draws Cymru.

Felly, o’r gweithgaredd fferm gwreiddiol yn 1975 mae’r fferm a’r busnes llaeth dilynol bellach yn gweithredu ledled y byd gyda throsiant o fwy na £4,500,000.

Mr Maurice Jones, Court Calmore, Trefaldwyn, Powys

Ar hyn o bryd mae Mr Jones yn ffermio 2,250 o erwau mewn partneriaeth â’i fab Fraser. Mae’n godro 1150 o fuchod Holstein Pedigri Calcourt ar draws tair buches ac mae wrthi’n ehangu o 1000 o fuchod ychwanegol.

Mae Mr Jones yn dal llawer o swyddi sy’n cynnwys bod yn un o Gyfarwyddwyr Ffermwyr Clynderwen a Sir Aberteifi, yn Llefarydd Amaethyddol Cymru Banc Lloegr, yn aelod o’r Clwb 1000 o Fuchod. Mae’n un o Gynrychiolwyr Sir Drefaldwyn ar Fwrdd Llaeth Cymru’r NFU (am 45 mlynedd), yn Aelod o Fwrdd Dileu TB Gogledd Cymru ers ei gychwyn, ac mae’n Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol er 2002. Mae’n aelod ac yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas Tir Glas Powys, yn aelod ac yn gyn-Gadeirydd Cymdeithas Rheoli Ffermydd Sir Drefaldwyn. Mae’n aelod cyfredol o Glwb Ffermwyr Swydd Amwythig, yn un o Gynrychiolwyr Sir Drefaldwyn i Bwyllgor Âr NFU Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Sir Drefaldwyn CAFC.

Mae Mr Jones wedi dal llawer o swyddi yn y gorffennol hefyd, megis – Is-Gadeirydd a Chadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru sawl tro. Pwyllgor Cynnyrch Llaeth a Bwrdd Llaeth Pencadlys NFU, Bwrdd Rheoli NFU Cymru ac Aelod o’r Cyngor. Bu’n Aelod o’r Pwyllgor i Glwb Bridwyr Buchod Holstein Swydd Amwythig, fe’i dyfarnwyd yn Ffermwr y Flwyddyn 1995 CAFC, yn Gadeirydd Cofnodion Llaeth Cenedlaethol Sir Drefaldwyn. Mae’n Aelod o’r Cyngor i Ffermwyr Llaeth Prydain ac yn Aelod o Fforwm Llaeth Tŷ’r Arglwyddi.

Mr Terrig G Morgan, Garreg y Llech, Treuddyn, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint

Bu cyfraniad Mr Morgan at y diwydiant llaeth, yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, yn  eithriadol. Gyda dyhead gwirioneddol a medr i gyfathrebu gydag unigolion ar draws y diwydiant, mae Mr Morgan yn eiriolwr dros newid a datblygiad cadarnhaol, ac mae wedi gadael ei farc ar y Diwydiant Llaeth yng Nghymru. 

Fel rhan o Fwrdd Llaeth yr NFU, roedd Mr Morgan yn gyfrifol am hwyluso cyfarfodydd rhwng Defra, adwerthwyr a Diwydiant y Fasnach Llaeth, gan lunio perthnasoedd sy’n mynd ymlaen. Nid oedd yn gwingo rhag sgyrsiau heriol iawn, ond yn cydnabod yr angen i gydweithredu.

Roedd Mr Morgan â chyfran yn sefydlu ‘The Udder Group’, grŵp trafodaeth llaeth, ble bu’n annog cynhyrchwyr iau i ddod i’r amlwg. Mae Mr Morgan wedi cadeirio ac arwain pwyllgorau rhyngwladol i sefydlu protocolau rhyngwladol ar warant fferm, gydag adroddiadau a llyfrau dilynol yn cael eu cyhoeddi wedyn, a thrwy wneud hynny, mae wedi cynrychioli Cymru ar y llwyfan Rhyngwladol. Gan gydnabod gwerth ‘gwerth ychwanegol’ a hyrwyddo, roedd a wnelo Mr Morgan yn agos ag ysgogi ymgyrch y ‘White Stuff’ a hyrwyddo cynhyrchion trwy osod cynhyrchion llaeth lleol ar silffoedd archfarchnadoedd yn ystod ei gyfnod yn dal swydd ar Fwrdd Llaeth yr NFU.

Mae Mr Morgan yn Gymrawd o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol ac mae wedi’i benodi’n Gadeirydd CARAS Cenedlaethol yn ddiweddar.

Mr DJ Bryan Thomas, Gellionnen, Heol Bolahaul, Cwmffrwd, Caerfyrddin

Mae Mr Thomas yn ffermio mewn partneriaeth â’i deulu yn Gelliddu, Cwmffrwd, ac ar hyn o bryd mae’n godro 250 o fuchod Holstein pedigri gyda 240 o wartheg ifanc â’r rhagddodiad GELLIDDU. Yn 2009, dyfarnwyd Tarian Meistr-Fridiwr i Mr Thomas gan Holstein UK, ar gyfartaledd dim ond tair buches y flwyddyn sy’n ennill y wobr hon. Caiff ei dyfarnu i fuchesi sy’n cyrraedd safonau arbennig o ran cydffurfiad ac o ran cynhyrchiant.

Mae Mr Thomas wedi beirniadu mewn llawer o sioeau yn cynnwys Sioe Frenhinol Lloegr, y Royal Ulster, y Royal Highland a Sioe Frenhinol Cymru (y Bencampwriaeth Llaeth rhyngfrid yn Sioe’r Canmlwyddiant).  Mae wedi beirniadu cystadlaethau buchesi ym mhob Sir yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys Cwpan Aur yr RABDF ar dri achlysur ar wahân, a Chystadleuaeth Pencampwr Buchesi Iwerddon Gyfan.

Yn ogystal, ymhlith swyddi eraill, mae Mr Thomas yn gyn-Gadeirydd a Llywydd Holstein De Cymru, wedi gwasanaethu ar Fwrdd Holstein UK, yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Sioe ac Arwerthiant yn ogystal â Phwyllgor Datblygu’r Brîd. Mae wedi cadeirio Panel AI Cymru’r Bwrdd Marchnata Llaeth, mae’n un o sefydlwyr Sioe Laeth Cymru.  Mae wedi gwasanaethu ddwywaith fel Llywydd Siambr Amaeth Caerfyrddin, wedi cadeirio Pwyllgor NMR Sir Gaerfyrddin.  Mae Mr Thomas yn aelod o gyngor Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, wedi gwasanaethu ar Banel Cymru CARAS, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Codi Arian Ardal Caerfyrddin Apêl 2017 CAFC. 

Mae wedi croesawu ymweliadau gan ddau o Ysgrifenyddion Gwladol Cymru dros Faterion Gwledig i drafod polisïau cynhyrchu llaeth, ac wedi croesawu dirprwyaethau o Lywodraethau Iwerddon a Kosovo i edrych ar ffermio Llaeth Cymru. Mae wedi croesawu cyrsiau CAAV ar y fferm, wedi eistedd ar Fwrdd Cynghori ar Amaethyddiaeth yr Ysgrifennydd Gwladol nes iddo gael ei chwalu (yn cynrychioli Diwydiant Llaeth Cymru). Mae Mr Thomas yn un o sylfaenwyr Panel Iechyd Anifeiliaid Defra, ac yn gyn-gadeirydd Rhaglen Datblygu Llaeth Cymru.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng nghyflwyniadau gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar ddiwrnod cyntaf y sioe, dydd Llun 24 Gorffennaf 2017, am 2.20 y pnawn.