Cneifwyr o Gymru ar eu ffordd i Seland Newydd ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd
24 Ionawr 2017
Mae cneifwyr gorau Cymru wedi ymlwybro i Seland Newydd cyn Pencampwriaethau Cneifio a Thrin Gwlân y Byd y mis nesaf.
Yn y cyfnod yn arwain at y pencampwriaethau sy’n cael eu cynnal yn Stadiwm ILT Southland, Invercargill, bydd y tîm o Gymru, ynghyd â chystadleuwyr o’r 32 gwlad arall sy’n cymryd rhan, yn cael rhywfaint o ymarfer cneifio munud olaf ar ffermydd a thrwy gystadlu mewn cystadlaethau lleol i ennill cymaint o brofiad ag sy’n bosibl gyda’r defaid.
Tra byddant ar ochr arall y byd bydd Rheolwr y Tîm, Martyn David o Fro Morgannwg, yn cadw llygad barcud ar chwe aelod tîm Cymru ac yn rhoi digonedd o anogaeth a chefnogaeth iddynt wrth baratoi at y pencampwriaethau.
Yn dechrau ar 8 Chwefror gyda chystadlaethau’r Holl Wledydd, mae’r pencampwriaethau’n dechrau poethi o ddifrif gyda rownd gyntaf Cneifio â Pheiriant y Byd ar ddydd Iau 9 Chwefror, ble bydd Ian Jones o Lanfair-ym-Muallt a Gwion Evans o Ddinbych yn cynrychioli tîm Cymru. Bydd y cynnwrf yn parhau y diwrnod wedyn pan fydd Ian a Gwion yn cystadlu yn ail rownd eu cystadleuaeth ac y bydd Gareth Owen o Feddgelert ac Elfed Jackson o Fethesda yn cystadlu yn rownd gyntaf pencampwriaethau Cneifio â Gwellau y Byd ac y bydd Robyn Charlton o Lanandras a Ffion Jones o Gorwen yn cymryd rhan yn rownd gyntaf pencampwriaethau Trin Gwlân y Byd.
Mae’r pencampwriaethau’n parhau ar ddydd Gwener 10 Chwefror gyda rowndiau terfynol cystadlaethau’r Holl Wledydd, gyda rowndiau olaf a chynderfynol Pencampwriaethau’r Byd yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ar ddydd Sadwrn 11 Chwefror. Bydd uchafbwynt y pencampwriaethau ar y nos Sadwrn gyda rowndiau terfynol y pencampwriaethau byd i dimau ac i unigolion yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o’r tair disgyblaeth.
![]() |
![]() |
|
Ian Jones |
Gwion Evans |
|
![]() |
![]() |
|
Elfed Jackson |
Gareth Owen |
|
![]() |
![]() |
|
Robyn Charlton |
Ffion Jones |
“Ni allem fod yn fwy balch o’n Tîm Cymreig wrth iddynt ei chychwyn hi am Seland Newydd ar gyfer pythefnos galed o ymarfer a chystadlu.” medd Aled Jones, Prif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. “Bu eu gwaith caled a’u hymroddiad yn anhygoel trwy gydol tymor 2016/17, gyda phob un o’r chwech ohonynt yn llwyr deilyngu eu lle yn Nhîm Cymru. Rydym yn gobeithio’n fawr iawn y byddant yn mwynhau eu hamser yn Seland Newydd a dymunwn bob lwc iddyn’ nhw pan fyddant yn cystadlu am y teitlau chwenychedig o bencampwr byd.”
“Rhaid inni ddiolch hefyd i holl gefnogwyr ffyddlon y tîm sydd wedi’u helpu i wireddu eu siawns o gystadlu yn y pencampwriaethau byd.” ychwanegodd Aled. “Mae pob cystadleuaeth cneifio a thrin gwlân yn cael ei threfnu trwy rwydwaith enfawr o wirfoddolwyr a chefnogwyr parod, y mae pob un ohonynt wedi helpu i gynnal safon uchel y cystadleuwyr sy’n gallu ffurfio Tîm Cymru dros y blynyddoedd. Rhaid estyn diolch arbennig i brif noddwyr y tîm; Mid-Wales Egg Packing, Lister a KiwiKit, a’r holl sefydliadau ac unigolion eraill sydd wedi rhoi rhoddion tuag at gost taith y tîm i Seland Newydd.”
I gael mwy o wybodaeth am Bencampwriaethau Cneifio a Thrin Gwlân y Byd a sut y mae Tîm Cymru’n dod yn eu blaen, ewch i: www.worldshearingchamps.com