Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ethol Llywydd 2017

14 Rhagfyr 2016

Mae rheolwr-gyfarwyddwr llwyddiannus cyfanwerthwr bwyd annibynnol teuluol mwyaf Cymru, Bwydydd Castell Howell, wedi’i ethol yn swyddogol yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2017.

Mae Mr Brian Jones MBE FRAgS o Gastell Howell, Pensarn, Caerfyrddin wedi ymgymryd â’r swydd uchel ei bri ym mlwyddyn Sir Gaerfyrddin fel blwyddyn nawdd y gymdeithas.

Y flwyddyn nesaf fydd y pedwerydd tro i Sir Gaerfyrddin fod yn sir nawdd ers i Sioe Frenhinol Cymru ymgartrefu’n barhaol ar faes y sioe yn 1963. Y strwythur unigryw o siroedd nawdd a phwyllgorau ymgynghorol yw’r hyn sy’n gosod y gymdeithas ar wahân i eraill ac yn sicrhau bod pobl Cymru yn dal gafael ar berchnogaeth y digwyddiadau. Mae ymdrechion codi arian pob un o’r siroedd er 1963 wedi cyfrannu miliynau o bunnoedd, sy’n cael eu buddsoddi’n ôl ym maes y sioe, gan ei wneud yn un o’r rhai gorau yn Ewrop. Mae hyn wedi creu ymdeimlad gwirioneddol o gydberchnogaeth ar ein safle.

Wedi’i gynnig yng nghyfarfod cyngor blynyddol y gymdeithas yr wythnos ddiwethaf gan Mr Meirion Owen a’i eilio gan Mr Euros Davies, disgrifiwyd Brian fel un llawn brwdfrydedd ac angerdd ac fel arweinydd gwych sydd, dros y blynyddoedd, wedi cefnogi a helpu llawer o sefydliadau ac elusennau lleol.

Fe wnaeth Brian, sy’n ffermwr ac yn entrepreneur, sefydlu Bwydydd Castell Howell yng nghanol yr 1980au, pan gafodd ei daro fel ffermwr llaeth gan gyflwyniad cwotâu llaeth ac y penderfynodd arallgyfeirio. Mae’r busnes llwyddiannus yn arbenigo mewn cynhyrchion Cymreig, a gynhyrchir yn lleol a gyda’r brand Celtic Pride, mae wedi cynyddu faint o gig Cymreig sy’n mynd i mewn i gadwyn fwyd Prydain.

Yn ddyn prysur, mae Brian yn gadeirydd Clwb Rygbi Carmarthen Quins hefyd a’r haf hwn cafodd ei dderbyn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Wrth dderbyn ei rôl lywyddol, dywedodd Brain ei bod yn fraint fawr ganddo dderbyn y swydd a diolchodd i’w gyd-aelodau sir nawdd, ei deulu a’i staff am eu cefnogaeth. Aeth Brian yn ei flaen i ddweud bod yr ymdrech a wneir ar ran y sir nawdd er budd Cymru gyfan, nid Sir Gaerfyrddin yn unig.

Hefyd yn gwisgo’r fantell yr wythnos ddiwethaf oedd Mrs Georgina Cornock-Evans o Harford, Llanwrda. Cafodd Georgina, a gynigiwyd gan Mr Jonathan Davies, ei hethol yn swyddogol yn Llysgenhades y Gymdeithas ar gyfer 2017. Yn ei hanerchiad derbyn, atgoffodd Georgina yr aelodau a oedd yn bresennol y byddai’r arian a godir yn ystod blwyddyn Sir Gaerfyrddin yn mynd tuag at brosiect ceffylau’r gymdeithas.

Mae Sir Gaerfyrddin wedi cael 12 mis gorlawn o godi arian yn barod, gyda thros 50 o ddigwyddiadau wedi’u cynnal eisoes, gyda’r gweithgareddau’n cynnwys cyngherddau, nosweithiau rasys, gemau rygbi, teithiau tractorau, sioeau ffasiwn, trefnu blodau, arwerthiannau, treialon cŵn defaid, bingo, reidiau beic a chneifio cyflym, heb anghofio calendr elusennol 2017 a’r amrywiaeth fawr o nwyddau a dillad poblogaidd.

O ganlyniad i gychwyniad mor enfawr a llwyddiannus i’w hapêl, roedd aelodau pwyllgor Sir Gaerfyrddin yn gallu rhoi gwybod bod cyfanswm yr arian a godwyd ganddynt eisoes wedi cyrraedd £100,000 hyd yma.

Gyda llawer mwy o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio ar gyfer 2017, mae’r sir yn barod i gael blwyddyn arbennig gydag aelodau’r pwyllgor yn brysur yn cwblhau’r cynlluniau ar gyfer y digwyddiad ‘Tom a Phridd’ newydd a fydd yn cael ei gynnal ar 24 Awst 2017 ar Gampws Gelli Aur, Coleg Sir Gâr, Llandeilo.

Aelodau pwyllgor Sir Nawdd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno siec am £100,000 i’r gymdeithas yng nghyfarfod cyngor yr wythnos ddiwethaf.

Cynigiodd cadeirydd ac ysgrifennydd pwyllgor ymadawol Sir Nawdd Meirionnydd, Hedd Pugh ac Edward Jones, bleidlais o ddiolch i Richard Jones, y Llywydd yn 2016 sy’n ymddeol, ac i Lysgenhades 2016, Catrin Jones.

O dan eu harweinyddiaeth, roedd Meirionnydd wedi cael dwy flynedd lwyddiannus iawn yn codi arian at brosiect dŵr y gymdeithas, a fydd yn creu system ddŵr breifat, yn cynnwys twll turio, storfa a dyfrhau, i leihau cost defnydd dŵr o’r prif gyflenwad.

Dywedodd Richard y bu hi’n fraint ac yn anrhydedd aruthrol gwasanaethu fel Llywydd y gymdeithas. Diolchodd i Sir Feirionnydd am eu cymorth enfawr gydol y 24 mis diwethaf a soniodd yn arbennig am waith pwyllgor tir glas y sir, a drefnodd y Digwyddiad Tir Glas llwyddiannus iawn a gynhaliwyd yn ôl ym mis Mehefin ar Ystâd y Rhug. Diolchodd Richard yn benodol hefyd i Lysgenhades Meirionnydd, Catrin, am ei hymdrech codi arian nodedig wrth rwyfo arfordir Meirionnydd mewn caiac.

Fe wnaeth dwy flynedd o waith caled, o’i grynhoi, arwain at y sir nawdd yn codi’r swm trawiadol o £235,000 i gyd.