Myfyrwyr Addawol yn derbyn Gwobrau Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

9 Gorffennaf 2016

Bob blwyddyn mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cyflwyno gwobrau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr addawol a sêr ar eu cynnydd, sy’n cydnabod ac yn talu teyrnged i’w brwdfrydedd a’u hymroddiad i amaethyddiaeth Cymru.

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn

Mae Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn 2016 Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi’i hennill gan Aled Davies o Langadog, Sir Gaerfyrddin.

Mae Aled yn astudio ar hyn o bryd yng Ngholeg Sir Gâr a bydd yn derbyn tystysgrif a gwobr ariannol ar gyfer taith astudio. 

Mae’r wobr flynyddol, a noddir eleni gan Sainsburys, yn agored i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau NVQ Lefel III neu’r cyrsiau ND/NC BTEC, tystysgrif/diploma C&G mewn Amaethyddiaeth, Garddwriaeth, Coedwigaeth, Nyrsio Anifeiliaid, Rheoli Ceffylau, Rheoli Cefn Gwlad neu gyrsiau rheoli eraill sy’n gysylltiedig â’r tir.

Yr un pryd ag astudio yng Ngholeg Sir Gâr, mae Aled yn gweithio ar y fferm deuluol hefyd, yn helpu gyda’r defaid a’r buchesi bîff a llaeth, yn ogystal â helpu ar fferm ei fodryb ar adegau prysur o’r flwyddyn.

Bu Aled yn gyfrannog yn Rhaglen Iau gyntaf yr Academi Amaeth a drefnwyd gan Gyswllt Ffermio a Grŵp Cenhedlaeth Nesaf yr NFU. Fe wnaeth y ddau gyfle yma ganiatáu i Aled dreulio amser gydag unigolion o’r un anian ac arbenigwyr y diwydiant, yn ogystal â bod yn llais i bobl ifanc o fewn y sector amaethyddol.

Yn aelod ymroddedig o’r Ffermwyr Ifanc hefyd, mae Aled ar hyn o bryd yn Gadeirydd Fforwm Ieuenctid y Sir, ac yn Aelod Iau y Flwyddyn ar lefel sirol ac yng Nghymru.

Bydd Aled yn cael ei wahodd hefyd i ysgrifennu erthygl ar gyfer blwyddlyfr y gymdeithas yn 2017 a bydd yn derbyn ei wobr ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.

Ysgoloriaeth Deithio Gwili Jones - Coleg Sir Gâr

Mae Ysgoloriaeth Deithio Gwili Jones - Coleg Sir Gâr wedi’i dyfarnu eleni i Aled Davies o Langadog, Sir Gaerfyrddin, sy’n enillydd Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn hefyd.

Cyflwynwyd y wobr yn 2013 er cof am y diweddar Gwili Jones, a sefydlodd ei fusnes peiriannau amaethyddol ym Mheniel, Caerfyrddin yn 1947. Mae’r wobr yn annog dysgwyr i  chwilota, archwilio a chloriannu gwahanol ddiwylliannau a systemau cynhyrchu a allai fod yn fuddiol yn y maes cyflogaeth a ddewisant.

Mae’r ysgoloriaeth ar gael i unrhyw fyfyriwr sydd ar hyn o bryd yn astudio unrhyw gwrs diwydiannau’r tir o fewn cyfadran astudiaethau diwydiannau’r tir ar gampws Gelli Aur a champws Pibwrlwyd, neu i unrhyw fyfyriwr sydd wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus o fewn cyfadran diwydiannau’r tir yng Ngholeg Sir Gâr o fewn y pum mlynedd ddiwethaf.

Mae’r ysgoloriaeth deithio’n anelu at ehangu gorwelion, a bydd yn cefnogi dysgwyr sy’n dangos y potensial i ailfuddsoddi dysg a gafwyd trwy deithio o fewn diwydiannau’r Tir yng Nghymru.

Gwobr Myfyriwr IBERS

Mae’r wobr i’r myfyriwr amaethyddiaeth gorau yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi’i hennill gan Kathryn Morris o Aberriw, Y Trallwng, Powys.

A hithau’n byw ar fferm bîff a defaid, bu Kathryn yn ffermwr brwd er pan oedd yn ifanc a dyfarnwyd Bwrsari Addysg Uwch Undeb Amaethwyr Cymru iddi ar gychwyn ei chwrs gradd am ei thraethawd ‘Ai gwlad o geidwaid parciau ynteu cynhyrchwyr bwyd ydym?’

Mae Kathryn wedi cael swydd addysgu / darlithio mewn Amaethyddiaeth ar safle’r Grŵp NPTC yn Y Drenewydd ar ddechrau’r flwyddyn a bu hi’n cyfuno rhywfaint o addysgu rhan-amser gyda’i hastudiaethau yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.  Mae hi hefyd yn cadw diadell fechan o famogiaid Texel pur ac yn aelod gweithgar o CFfI Aberriw.

Rhaid i ymgeiswyr am y wobr fod wedi astudio amaethyddiaeth neu raglen gydag elfen sylweddol o amaethyddiaeth ynddi i lefel gradd, diploma neu dystysgrif a dylent fod wedi’u geni a’u magu yng Nghymru.

Bydd Kathryn yn derbyn tystysgrif ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.

Gwobr Myfyriwr Harper Cymry

Mae Gwobr Myfyriwr Harper Cymry, a hyrwyddir ar y cyd gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a Harper Cymry, wedi’i dyfarnu eleni i ddau fyfyriwr teilwng iawn: Sophie Jones o Aberbrân, Aberhonddu, Powys a Liam Williams o Nelson, Treharris, Morgannwg.

Wedi’i chyflwyno yn 1999, mae’r wobr yn ceisio annog myfyrwyr o Gymru sy’n astudio yng Ngholeg Prifysgol Harper Adams i gyfrannu’n llawn at ddatblygu eu potensial academaidd â’u potensial personol.

Mae’r wobr yn cydnabod myfyrwyr gyda’r yrfa academaidd orau wedi’i chyfuno â chyfraniad cadarnhaol iawn at amgylchedd dysgu myfyrwyr ehangach y coleg trwy’i glybiau a’i gymdeithasau neu drwy weithgareddau eraill. 

Mae’r wobr hefyd yn cwmpasu cyfraniad y myfyriwr at weithgareddau Harper Cymry, y clwb yn y coleg ar gyfer myfyrwyr o Gymru. Yn ogystal, mae’r beirniaid yn y cyfweliad, yn chwilio am y myfyriwr sydd â’r cynlluniau a’r potensial gyrfa y meddyliwyd amdanynt orau.

Bydd Sophie a Liam yn derbyn costrel risial ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.

Gwobr Myfyriwr Amaethyddol Dr Richard Phillips

Mae gwobr gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i fyfyrwyr er cof am y diweddar Dr Richard Phillips, cymeriad blaenllaw mewn addysg amaethyddol yng Nghymru, wedi’i hennill gan Cennydd Jones, myfyriwr BSc (Anrh) Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Cennydd yn byw ar fferm laeth ger Pont-siân, Llandysul, Ceredigion, a’i frwdfrydedd ef ynghylch godro sydd i gyfrif yn rhannol am y ffaith fod busnes ffermio’r teulu wedi dychwelyd i laeth. “Dros 30 mlynedd yn ôl, fe wnaeth fy nhad-cu a’m mam-gu newid o laeth i fîff sugno, ond i sicrhau dyfodol hir dymor, bu inni gytuno mai’r unig ffordd ymlaen i’r uned hon, sy’n seiliedig ar laswellt, oedd newid yn ôl i laeth ac i ehangu’n raddol i 120 o fuchod,” meddai.

Ar ôl graddio, mae Cennydd yn bwriadu astudio am MSc mewn Gwyddor Da Byw a theithio cyn dychwelyd i’r uned deuluol a sicrhau swydd ymgynghoriaeth ran-amser gobeithio. “Ar ôl ennill profiad yn gweithio gyda systemau mewnbwn isel yn Seland Newydd yn barod, hoffwn deithio nesaf i wledydd sy’n cynnal systemau mwy effeithlon, a dysgu mwy, er enghraifft, am reoli ffrwythlondeb.”

Mae’r wobr flynyddol, a wneir yn bosibl gan haelioni teulu Dr Phillips, yn agored i fyfyrwyr sy’n graddio o adrannau amaethyddol prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Roedd yna saith ymgeisydd am y wobr o £150 eleni.

Caiff y myfyrwyr eu dewis o flaen llaw gan benaethiaid yr adrannau amaethyddol ac mae gyda’r naill brifysgol a’r llall yr hawl i gyflwyno hyd at bedwar o fyfyrwyr amaethyddiaeth neu bynciau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.

Mae’r dethol terfynol wedi’i seilio ar werthusiad o bersonoliaeth y myfyriwr, gwybodaeth ymarferol am amaethyddiaeth a’i ddefnydd, dyfnder gwybodaeth o’r gwyddorau amaethyddol, yr oblygiadau economaidd a rôl amaethyddiaeth yn y dyfodol.

Byddir yn gwahodd Cennydd i ysgrifennu erthygl ar gyfer blwyddlyfr y gymdeithas yn 2017 a bydd yn derbyn ei wobr ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.

Ysgoloriaeth Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae ysgoloriaeth gwerth £3,000 gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i annog myfyrwyr i ddatblygu eu potensial trwy gyrhaeddiad academaidd fel eu bod yn gallu gwneud cyfraniad mwy effeithiol at y diwydiant amaethyddol wedi’i dyfarnu i Hanna Thomas o Llwyndrain, Llanfyrnach, Sir Benfro.  

Bwriad yr Ysgoloriaeth, a noddir gan Waitrose, yw helpu myfyrwyr o Gymru sydd wedi cymryd eu Diploma Cenedlaethol Uwch neu radd sylfaen mewn coleg amaethyddol yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Ar ôl gadael ysgol fel y brif ferch a gyda 12 TGAU a 3 Lefel A, roedd yn yr arfaeth i Hanna wneud yn dda yn y brifysgol. Er iddi ddechrau ei hastudiaethau gradd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, sylweddolodd Hanna yn fuan ei bod wedi rhoi ei chalon a’i bryd ar yrfa mewn Amaethyddiaeth ac ym mis Medi 2014 fe drosglwyddodd hi i astudio ar gwrs Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth yn y Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yn Aberystwyth. Mae Hanna bellach wedi cwblhau’r cwrs hwn ac wedi penderfynu parhau ei hastudiaethau a mynd yn ei blaen i astudio am BSc (Anrh) mewn Amaethyddiaeth.

Fel rhan o’i chwrs anrhydedd bydd angen i Hanna gwblhau prosiect annibynnol a’i chynlluniau yw astudio cynhyrchu glaswelltir yn effeithlon gyda phwyslais arbennig ar fesur glaswellt gyda thechnegau llwybro lloeren electronig symudol.

Ar ei fferm enedigol yn Drysgolgoch mae buches laeth o 680 o fuchod ar hyn o bryd a bu hi’n amlwg yn y diwydiant am genedlaethau lawer. Mae Hanna wedi cael profiad o arfer amaethyddol da gartref yn ystod ei magwraeth ond i wella’i phrofiad fe wnaeth hi leoliad gwaith yn ystod ei chyfnod yn y coleg gyda Agri Angels Ltd Caerfyrddin, cwmni o ymgynghorwyr amaethyddol. Aeth hyn â hi ar ffermydd i gynorthwyo gyda gweithgareddau ysgrifenyddol ac ymgynghorol ac fe wnaeth gynyddu ei diddordeb yn y posibilrwydd o ddilyn gyrfa yn y math yma o waith ar ôl graddio.

Mae diddordebau Hanna yn niferus ac amrywiol a hithau wedi cymryd rhan yng nghystadlaethau’r CFfI a’r Urdd dros y blynyddoedd ac ychydig flynyddoedd yn ôl dewiswyd hi gan yr Urdd i ymweld â Phatagonia fel rhan o grŵp bychan o Gymru. Gwnaeth ei hamrywiaeth o ddiddordebau a’i gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol argraff dda ar y beirniaid ac roeddynt yn teimlo’n ffyddiog y byddai hi’n gwneud defnydd rhagorol o’r Ysgoloriaeth hon ac y byddai’n elwa’n sylweddol arni.

Bydd Hanna’n derbyn ei gwobr ar ddydd Mawrth 19 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.