Anrhydeddau i arweinwyr ffermio Cymru

7 Gorffennaf 2016

Mae wyth o arweinwyr gweithgar a theilwng y diwydiant wedi derbyn yr anrhydedd eleni o gael eu gwneud yn aelodau cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am eu cyfraniad at y diwydiannau amaethyddol a gwledig yng Nghymru.

Mae Panel Cenedlaethol Cymru a Phanel Safonwyr Cenedlaethol Cyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn ystyried y ceisiadau lawer a wneir bob blwyddyn yn drylwyr ac yn fanwl ac yn 2016, hyd yma, barnwyd bod wyth o’r ceisiadau am y dyfarniad o safon digon uchel i dderbyn y teitl chwenychedig o aelod cyswllt.

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus oedd Mr Richard Gibb o Dregolwyn, Morgannwg gyda’i gyflwyniad ‘Hyrwyddo llaethyddiaeth’. Taniwyd angerdd Mr Gibb ynghylch y diwydiant llaeth a sut y mae ymchwil gadarn yn allweddol i welliannau mewn effeithlonrwydd cynhyrchu am y tro cyntaf tra oedd yn cynnal astudiaethau yn Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Llaethyddiaeth yn Shinfield, Reading. Gan wneud defnydd da o’i ganfyddiadau, bu Mr Gibb yn gweithio o fewn y diwydiant yn dangos sut y byddai targedu defnydd gwrtaith yn cynyddu cynhyrchiant glaswelltau a chnydau âr. Mae Mr Gibb yn gweithio’n awr fel arbenigwr llaeth gyda BOCM Pauls yn gofalu am Dde Cymru i gyd ac mae’n gweithio’n ddiflino i helpu i wella effeithlonrwydd cynhyrchu llaeth yn y rhanbarth.

Roedd Mr Thomas Stephenson o Gornist, Sir y Fflint yn llwyddiannus hefyd gyda’i gyflwyniad ‘Fy nghyfraniad at ieuenctid mewn amaethyddiaeth ac at ddiogelu sgiliau a chrefftau bywyd gwledig’. Fel aelod oes o Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Clwyd, mae Mr Stephenson wedi cysegru dros 50 mlynedd i’r mudiad ac wedi hyfforddi llawer o aelodau ifanc mewn sgiliau gwledig, yn arbennig beirniadu stoc. Mae Mr Stephenson yn annog aelodau clybiau ffermwyr ifanc i ddysgu cymaint o sgiliau â phosib a mynd yn eu blaen i’w defnyddio ym mywyd y gymuned. Bu Mr Stephenson yn  gefnogwr ymroddgar i Sioe Amaethyddol Dinbych a Fflint am fwy na hanner canrif, ble mae wedi bod yn gyfrannol yng ngoroesiad y sioe flynyddol a llwyddiant ariannol y gymdeithas.

Gyda’i gyflwyniad ar ‘Datblygiad fferm ucheldir dan reolaeth organig’, dyfarnwyd aelodaeth gyswllt i Mr Dafydd Parry Jones o Benegoes, Powys hefyd. Ar ei fferm 470 erw, mae Mr Jones, o ganlyniad i’w reolaeth eithriadol, wedi profi y gall fferm ucheldir gyda phridd gwael gynhyrchu porthiant organig o safon uchel a bîff a defaid arbennig. Mae stoc ar y fferm yn cael eu dewis i weithio mewn cytgord â’r system porthiant organig ac yn cael eu hanelu at y farchnad bremiwm. Mae’r fferm wedi cynnal digwyddiadau cenedlaethol ac Ewropeaidd ac yn y deng mlynedd ddiwethaf, mae Mr Jones wedi derbyn llawer o wobrau’r diwydiant o ganlyniad i’r gwelliannau y mae wedi’u gwneud i’r fferm.

Roedd Mr Robert Powell o Lanfair-ym-Muallt, Powys yn llwyddiannus hefyd gyda’i gyflwyniad ‘Gwell defnydd o laswellt’. Mae Mr Powell yn ffermio 690 erw i gyd, yn ymestyn dros ddwy fferm ac mae ganddo drwydded bori ar gyfer Mynydd Epynt hefyd. Caiff y gyr o 150-200 o wartheg, o darw Du Cymreig, eu gorffen ar ddognau cartref, a’u gwerthu i Waitrose trwy Grŵp Marchnata Cig Eidion Du Cymreig Dyffrynnoedd Gwy a Thywi, y bu Mr Powell yn gadeirydd arno am bum mlynedd.  Mae’r 2,000 o famogiaid wedi’u rhannu’n dair diadell a gyda’r da byw i gyd, y nod yw pesgi’r holl stoc oddi ar laswellt a silwair o ansawdd da i gyfyngu ar y dwysfwydydd a brynir. Mae’r ffermydd wedi’u defnyddio fel ffermydd arddangos Cyswllt Ffermio gyda dau ddiwrnod agored ac wedi cynnal ymweliadau grwpiau llai yn ogystal i ddangos y dulliau arfer da diweddaraf.

Gyda’i chyflwyniad ar ‘Fy myd ceffylau a gwasanaethau i’r gymuned amaethyddol o fewn sioeau mewn amrywiol swyddi’, dyfarnwyd aelodaeth gyswllt i Mrs Cynthia Higgon o Gryndal, Sir Benfro hefyd. Bu Mrs Higgon yn gefnogwr ymroddedig i Sioe Frenhinol Cymru am flynyddoedd lawer, gan eistedd ar lawer o bwyllgorau, yn cynnwys bwrdd y cyfarwyddwyr a stiwardio am dros 30 mlynedd. Yr un modd, bu Mrs Higgon yn gefnogwr pybyr i Sioe Sir Penfro a llawer o sioeau a ralïau clybiau merlod. Yn uchel ei pharch am ei gwaith gyda phobl ifanc, mae Mrs Higgon wedi helpu gyda Chymdeithas Marchogaeth i’r Anabl Sir Benfro am flynyddoedd lawer ac wedi gwirfoddoli i Barnardos am dros 20 mlynedd yn helpu  plant i farchogaeth ac yn mynd â nhw i sioeau i fwynhau eu hunain. Ar ôl marchogaeth a hyfforddi ceffylau Man i Fan ar hyd ei hoes, mae Mrs Higgon wedi bod â chysylltiad agos hefyd ag amrywiol gymdeithasau Man i Fan lleol a chenedlaethol a chyflwynwyd gwobrau iddi fel arwydd o’i hymroddiad.

Roedd Mr Elfyn Owen o Landdoged, Conwy gyda’i gyflwyniad ‘Gwella defaid Wyneblas Caerlŷr’, yn llwyddiannus hefyd. Roedd Mr Owen yn un o aelodau sylfaenu’r grŵp a ddechreuodd y Cynllun Cyfeirnod Hyrddod yn 1997, i gofnodi perfformiad ei hyrddod Wyneblas Caerlŷr, gyda’r nod o godi safonau. Mae’r arfer da hwn wedi bod yn fodd i ddatblygu’r brîd ac wedi arwain at welliannau sylweddol. Ac yntau’n gyfrannol yn ffurfio’r grŵp Bridwyr Blaengar yn 2012, roedd Mr Owen yn anelu at hyrwyddo manteision defnyddio hyrddod ‘mynegai’ uchel wrth groesi â’r famog fynydd i gynhyrchu’r ddafad Miwl. Bu Mr Owen yn llywydd Cymdeithas y Defaid Miwl Cymreig ac yn llywydd Cymdeithas Defaid Wyneblas Caerlŷr, yn ogystal ag yn Gadeirydd Cymru a Llywydd Cenedlaethol y cyntaf.

Roedd Mr John Owen o Gelli Aur, Sir Gaerfyrddin yn llwyddiannus gyda’i gyflwyniad ‘Llaeth yn profi’i werth ar Ffermydd Llaeth Cymru’. Bu Mr Owen yn gyfrannog yn sefydlu’r Uned Laeth arbenigol ar Fferm Coleg Gelli Aur, yn canolbwyntio ar gynhyrchu llaeth o borthiant yr un pryd â chynnal ffocws addysgol cryf. Ynghyd â’i swydd yn y coleg, ei astudiaethau Ysgoloriaeth Nuffield a’i waith gyda Llywodraeth Cymru, yn arbennig gyda Chynllun Datblygu Gwledig Cymru, y Prosiect Gwerth Porfa a Bwrdd Dileu TB De-Orllewin Cymru, mae gwybodaeth Mr Owen am systemau tir glas a systemau llaeth yn eang ac yn parhau i gyflenwi’r diwydiant llaeth ag arbenigedd a chyfleoedd, yn arbennig felly yng Nghymru.

Yr wythfed ymgeisydd llwyddiannus i dderbyn aelodaeth gyswllt yw Mr Julian Radcliffe o Ben-marc, Bro Morgannwg gyda’i gyflwyniad ‘Datblygu ac ymestyn ffermio’. Mae arferion amaethu Mr Radcliffe wedi’u seilio ar gylchdro cadarn, amrywogaethau addas, paratoi’r hadwely a sylw i fanylion. Dadansoddi’r pridd yn rheolaidd, ynghyd â defnydd gwrtaith, rheolaeth ar glefydau ac offer mecanyddol arbenigol fu sail ei lwyddiant. Mae sychwr grawn a chyfleusterau storio newydd wedi cynnal breichiau Mr Radcliffe wrth iddo farchnata’i gnydau uchel eu hansawdd. Mae’r defaid a’r bîff yn rhan annatod o’r system ffermio hefyd, gydag anifeiliaid wedi’u pesgi o safon yn cael eu gwerthu am bris uwch i lawer o fwytai a gwestyau lleol. Ynghyd â llawer rhinwedd a gwobr, mae fferm Mr Radcliffe wedi’i dewis fel fferm fonitro Ydau a Had Olew yr AHDB, yr unig un yng Nghymru. 

“Unwaith eto roedd safon y cyflwyniadau’n eithriadol o uchel ac mae CARAS Cymru a’r Paneli Safonwyr Cenedlaethol yn falch o gydnabod pa mor ffodus yw diwydiant amaethyddol Cymru i fod ag arweinwyr mor ddylanwadol a brwdfrydig.” meddai Mr Cyril Davies, cynrychiolydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyngor CARAS ac aelod o’r Panel Safonwyr Cenedlaethol.

“Rydym wrth ein bodd o ddyfarnu aelodaeth gyswllt i’r wyth ymgeisydd teilwng iawn yma ac edrychwn ymlaen at eu croesawu i Sioe Frenhinol Cymru yn ddiweddarach y mis hwn i dderbyn eu gwobr.”

Bydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn eu gwobrau’n swyddogol mewn derbyniad a gynhelir ar nos Fawrth Sioe Frenhinol Cymru 2016.