Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Gyda’r thema’n farchnata, enillydd Gwobr Dr Emrys Evans Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni yw Mr Scott Davies, Hilltop Honey Limited, o’r Drenewydd, Powys.

Eleni roedd naw o ymgeiswyr am y wobr, a noddir yn garedig gan Mrs Mair Evans, a chafodd pob un ohonynt eu cloriannu o ran eu medrusrwydd mewn marchnata, cyfanwerthu neu fanwerthu eu cynnyrch eu hunain.

“Gwnaed cryn argraff arnom gan safon uchel yr ymgeiswyr yng Ngwobr Dr Emrys Evans eleni.” meddai’r beirniaid, Mr David Morgan MBE FRAgS a Mr Tim Dowdeswell BA (Anrh). “Yn wir, os yw’r naw unigolyn hyn yn gynrychiolaidd o’r ffermwyr a’r cynhyrchwyr iau yng Nghymru mewn unrhyw ffordd, mae dyfodol diwydiant Bwyd-Amaeth Cymru yn un disglair.”

Roedd yr ymgeiswyr i gyd o gefndiroedd amrywiol iawn ac yn cynrychioli amrywiaeth eang o wahanol fusnesau wedi’u lleoli ledled Cymru. Sut bynnag, fe wnaeth y beirniaid y sylw fod gan bob un ohonynt beth wmbredd o frwdfrydedd o ran marchnata, hyrwyddo, a gwerthu eu cynnyrch. Fe wnaethant nodi hefyd fod eu defnydd rhagorol o’r cyfryngau cymdeithasol yn gyffredin i bob un o’r busnesau fel ffordd o gael eu cynhyrchion o flaen cynulleidfa ehangach.

 

“Roedd cwtogi rhes mor gryf o gynigion i ddim ond un enillydd yn orchwyl anodd, gyda phob un yn arddangos cariad llwyr at eu cynhyrchion a dyhead i gael y rhain i’r farchnad. Sut bynnag, roeddem yn teimlo bod Scott Davies yn dderbyniwr teilwng Gwobr Dr Emrys Evans eleni gyda stori fusnes sy’n wirioneddol ysbrydoledig.” ychwanegodd y beirniaid.

 

Fel mab ffermwr mynydd a adawodd ysgol gyda thri TGAU, ac yn dilyn damwain yn y gwaith, penderfynodd Scott ddechrau cadw gwenyn, gan werthu ei fêl o ddrws i ddrws i ddechrau, ac yna i siop leol.

Yna sicrhaodd Scott orddrafft o £5000 i’w fuddsoddi mewn cyfarpar, i frandio’i fusnes, ac i gymryd stondin mewn digwyddiad bwyd yn Llundain, a arweiniodd at ei gwsmer cyfanwerthol cyntaf.

Bu iddo ddatblygu’r busnes yn gyflym, tra oedd yn dysgu am farchnata, gwerthu, rheoli a chyllid. Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod wrth galon hyrwyddo’i frand ac o fewn wyth mlynedd mae Scott wedi troi ychydig o gychod gwenyn ar fferm ei dad yn Hilltop Honey, brand sydd i’w gael bellach ar y rhan fwyaf o’n silffoedd archfarchnad, ac sy’n chwaraewr pwysig ym marchnad fêl y Deyrnas Unedig.

Bydd tystysgrif a medal yn cael eu cyflwyno ar ddydd Llun 22 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru er cof am Dr Emrys Evans, medalydd aur Sioe Frenhinol Cymru a chadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, a fu farw y noson cyn sioe’r canmlwyddiant yn 2004.