Bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn torri costau ac yn cynyddu incwm, medd y cadeirydd

20 Rhagfyr 2013

Bydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn adeiladu ar ei thraddodiadau ond bydd yn ymorol am wneud yn fawr o gyfle, dileu gwastraff a chynyddu proffidioldeb, meddai cadeirydd y bwrdd, John Davies, wrth aelodau Cyngor y gymdeithas yn Llanfair-ym-Muallt.

Mewn anerchiad yn amlinellu cyfeiriad y gymdeithas yn y dyfodol dan dîm rheoli newydd, dywedodd Mr Davies fod creu llwyfan cyllidol cryf yn rhan hanfodol o’r cynllun busnes.

Roedd cynnydd yn cael ei wneud gyda rheolaethau cyllidebol a chynllun rheoli costau’r gymdeithas a oedd yn dangos gwir gost cynnal digwyddiadau eiconig y gymdeithas.  Er enghraifft roedd yn costio £420,000 y flwyddyn i ddarparu meysydd parcio am ddim i bobl yn mynychu’r sioe, ffaith nad oedd fawr neb yn ei sylweddoli cyn cynhyrchu cyllideb eleni.

Roedd y cynllun lleihau costau yn canolbwyntio ar yr ‘eitemau tocynnau mawr’ ble’r oedd cyfleoedd i gyflawni’r arbedion mwyaf, megis trydan a dŵr, a oedd yn costio mwy na £200,000 y flwyddyn, yn bodoli.

Hyd yn hyn nid oedd y gymdeithas wedi buddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy ond fel rhan o gynllun ‘buddsoddi i arbed’ roedd system PV solar 150kw, yr amcangyfrifir y bydd yn arbed dros £26,000 y flwyddyn i’r gymdeithas, yn cael ei gosod ar do’r Neuadd Fwyd ar faes y sioe, meddai Mr Davies.

Dŵr oedd y prosiect mawr nesaf.  Ni ellid cyfiawnhau golchi adeiladau’r da byw gyda miloedd o alwyni o ddŵr yfed.

“Mae’n huchelgais i gynyddu incwm gymaint â’n hymgyrch i leihau costau,” meddai Mr Davies.  “Rydym yn chwilio’n barhaus am gyfleoedd i ddatblygu a gwella’n digwyddiadau.  Mae agor y danffordd, gan ganiatáu cynnydd yn niferoedd y stondinau masnach yn y Ffair Aeaf yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei gyflawni.  Sicrhaodd hyn dros £8,000 mewn incwm ychwanegol i’r gymdeithas ac mae’n profi beth ellir ei wneud gydag egni ac ymroddiad.”
Gan gyfeirio at 50fed sioe Frenhinol Cymru ar y safle parhaol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf, dywedodd Mr Davies fod y nifer mynychwyr uchaf erioed, 241,781 yn nifer syfrdanol.  Cafwyd mwy o bobl nag erioed, 29,374, yn y Ffair Aeaf ddiweddar hefyd, gan wneud Ffair eleni yn un o’r gorau yn ei hanes 24 mlynedd.

Roedd y gymdeithas yn gallu dathlu llwyddiant arall.  Er gwaethaf y codiad yn y taliadau fe wnaeth yr aelodaeth gyrraedd 20,000, prawf petai ei angen fod aelodaeth y gymdeithas yn ddiau yn dal yn werth yr arian.