Gwartheg Brown Swiss ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru

10 Mehefin 2013

Bydd gwartheg Brown Swiss, fel yr un yma sy’n gwisgo cloch buwch, yn ymddangos yn Sioe Frenhinol Cymru am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf.  Yn frîd godro, maen nhw’n hanu o ardaloedd Alpaidd eiraog y Swistir ac maen nhw’n nodedig am eu hiechyd, eu caledwch a’u cynnyrch llaeth uchel.  Dywedir eu bod yn cynrychioli un o’r poblogaethau gwartheg mwyaf yn y byd ac maen nhw i’w cael mewn llawer o wledydd.  Cawsant eu hallforio gyntaf i America yn y 1860au ac maen nhw wedi bod ym Mhrydain am tua 40 mlynedd.  Sefydlwyd cymdeithas y brîd yma yn 1973.