Cyffroadau cyflymder uchel i'r Ŵyl Wanwyn

18 Ebrill 2013

Bydd Motocrós Dull Rhydd (FMX), amrywiad ar y math o Fotocrós ble mae reidwyr beiciau modur yn mynd â’u peiriant trwy neidiau hedegog cyflymder uchel o amryfal hydau ac onglau, ar raglen yr adloniant i ymwelwyr â Gŵyl Wanwyn Frenhinol Cymru y mis nesaf.

Bydd Tîm Dull Rhydd Bolddog Lings, sydd wedi ennill clod cenedlaethol, yn darparu cyffroadau eithafol ar gyfer y tyrfaoedd yn yr Ŵyl ar Fai 18 ac 19 ar faes y sioe yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt.

Bydd reidwyr motocrós dull rhydd gradd uchaf y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn y sioe ddi-baid unigryw, gan lansio eu hunain i’r entrychion o’r ramp glanio mwyaf a mwyaf soffistigedig yn y byd. Mae’n eu galluogi i gyrraedd uchder o 35 troedfedd a neidio bylchau dros 75 troedfedd o led gan roi digon o amser iddynt yn yr awyr i berfformio amrywiaeth o driciau sy’n mynd â’ch gwynt. Mae llawer o’r symudiadau, sy’n herio angau, yn caniatáu i’r reidwyr adael sedd y beic a thynnu eu dwylo oddi ar ei gyrn tra byddant yn cylchdroi eu cyrff o bobtu eu peiriannau yn yr awyr.

Meddai Dan Whitby, rheolwr y tîm ac un o feicwyr dull rhydd gorau’r DU: “Mae’n sioe ddi-baid a fydd yn difyrru pawb - yn rhan rhaid-ei-gweld o’r Ŵyl ac yn sbectacl y mae’i phoblogrwydd yn tyfu’n barhaus wrth i ymwybyddiaeth o FMX dyfu.”

Bydd y tîm yn rhoi perfformiadau ddwywaith y dydd yn y prif gylch yn ystod y ddau ddiwrnod dros benwythnos yr Ŵyl.