Diwrnod Arddangos ac Arloesi
~ Dydd Gwener 1 Chwefror 2019, 11am – 4pm
~ Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. LD2 3SY
~ Mynediad am ddim – cofrestrwch ymlaen llaw trwy e-bostio caraswales@rwas.co.uk
~ Parcio am ddim
~ Arddangosion ac arddangosfeydd am ddim o dros 40 o brifysgolion, colegau, busnesau a sefydliadau
~ Cyflwyniadau a sgyrsiau am ddim
~ Lluniaeth ar gael i’w brynu ar y safle.
Yn dangos rhai o’r technolegau diweddaraf sydd ar gael i ffermwyr a’r diwydiant amaeth ehangach, bydd y Diwrnod Arddangos ac Arloesi cyntaf un yn cael ei gynnal ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar ddydd Gwener 1 Chwefror.
Yn cael ei noddi gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a CARAS Cymru (Cyngor Dyfarniadau’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol) bydd mynediad i’r digwyddiad undydd newydd hwn yn rhad ac am ddim. Gall ffermwyr, arweinwyr amaethyddol, busnesau a myfyrwyr elwa ar dros 40 o arddangosion o’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael i amaethyddiaeth, coedwigaeth a garddwriaeth.
Gan ddod â phrifysgolion, colegau, sefydliadau a busnesau o bob rhan o Gymru at ei gilydd, bydd y digwyddiad newydd hwn yn rhoi lle amlwg i arddangosfeydd ar delemateg, dronau, rheoli pridd, roboteg, genomeg, diogelwch, GPS, i enwi ond ychydig. Maent i gyd wedi’u hanelu at wella effeithlonrwydd a chynyddu cynhyrchiant trwy ‘ffermio manwl’.
Gydol y diwrnod bydd cyfle hefyd i glywed gan ein siaradwyr gwadd nodedig ar nifer o bynciau diddorol ac ysbrydoledig:
|
Mr Tim Bennett Canolfannau amaeth-dechnoleg newydd a ariennir gan y Llywodraeth |
![]() |
Mr Alastair Taylor Peirianneg, gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr amgylchedd amaeth |
![]() |
Mr Iain Clarke Addysgu’r genhedlaeth nesaf a byd technoleg sy’n prysur newid |
![]() |
Mr John Owen Y Prosiect Slyri, system ddihysbyddu yng Ngelli Aur, sy’n defnyddio technoleg a ddatblygwyd gan Power and Water, Cwmni Technoleg wedi’i leoli yn Abertawe |
![]() |
Mr Graham Higginson Amaeth-dechnoleg ar gyfer y sector âr |
![]() |
Mrs Eirwen Williams Helpu cynhyrchwyr i fabwysiadu arferion newydd, meincnodi perfformiad, rhannu syniadau, mynd i’r afael ag anghenion y farchnad a chroesawu arloesedd |
Mae’r diwrnod yn rhoi’r cyfle perffaith i weld technoleg ac arloesedd newydd a fforddiadwy yn uniongyrchol a chlywed gan arweinwyr y diwydiant wrth inni edrych tuag at sicrhau dyfodol Amaethyddiaeth Cymru yn y dyddiau ansicr hyn.