Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Bob blwyddyn, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn cynnal cystadlaethau ffotograffiaeth a chelf i blant ysgol. Mae hyn yn ffurfio rhan o amcanion elusennol y Gymdeithas i hyrwyddo amaethyddiaeth, garddwriaeth, coedwigaeth, a chadwraeth yng Nghymru.

Mae modd cael gwybod mwy am gystadlaethau eleni isod.

Cystadleuaeth Diogelwch Plant

Defnyddiwch eich sgil a’ch dychymyg i greu paentiad neu lun yn dangos sut i aros yn ddiogel yn agos i offer a pheilonau trydan.

Categorïau Oedran: 5-7 mlwydd, 8-9 mlwydd, 10-11 mlwydd

Enillwch wobrau ariannol i chi a’ch ysgol! Bydd y cynnig buddugol cyffredinol yn dod yn boster diogelwch i’r Grid Cenedlaethol – Dosbarthu Trydan.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 19eg Mai 2023.

Cystadleuaeth Ffotograffig Ysgolion Cynradd Pwyllgor Coedwigaeth CAFC

Cyfle i ennill arian i’ch ysgol ac ymweliad â Sioe Frenhinol Cymru! Y thema ar gyfer cystadleuaeth ffotograffig ysgolion cynradd yw ‘Creaduriaid Coetir’.

Cadwch lygad am fywyd gwyllt yn y coed a dechrau tynnu lluniau! O adar i loÿnnod byw, gwiwerod i ysgyfarnogod – rydym yn chwilio am y creaduriaid arbennig y gellwch ddod o hyd iddynt yn y goedwig.

Cystadleuaeth yn cau ar ddydd Llun 12fed Mehefin 2023.

Cystadleuaeth Ffotograffig Ysgolion Uwchradd Pwyllgor Coedwigaeth CAFC

Enillwch drip i Sioe Frenhinol Cymru a gwobr ariannol i’ch ysgol! Y thema ar gyfer cystadleuaeth ffotograffig ysgolion uwchradd yw ‘Pwysigrwydd Coetir’.

Mae coedwigoedd a choetir yn cynnig cynefin ardderchog i bob math o anifeiliaid. Yn llawn o goed hardd, blodau a bywyd gwyllt maent yn lle cyffrous i’w chwilota. Allwn ni ddim aros i weld pam fod y coetir yn bwysig i chi!

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â…
Eve Watkins
Reception
Ffôn
01982 553683