Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Sefydlwyd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 1904, a chynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn ystod yr un flwyddyn.

Mae’r gymdeithas wedi datblygu’n helaeth iawn ers y dyddiau cynnar hynny, ac mae tri digwyddiad y Gymdeithas, sef yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru, a’r Ffair Aeaf, wedi dod yn ddigwyddiadau pwysig yng nghalendr amaethyddol Cymru.

Croesawodd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) gynhadledd Ranbarthol Cymru Cymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) ar ddydd Gwener 29ain Ebrill 2022, yn y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes Sioe Frenhinol Cymru.

Mae’r ASAO yn cynrychioli llawer o ddigwyddiadau amaethyddol a garddwriaethol, a digwyddiadau ceffylau a chefn gwlad y Deyrnas Unedig ac yn gweithio i rannu arfer gorau rhwng cymdeithasau amaethyddol a sefydliadau cysylltiedig. Roedd y gynhadledd drwy’r dydd yn gyfle gwych i aelodau’r gymdeithas gyfarfod wyneb yn wyneb unwaith eto ac i sôn am y sioeau amaethyddol sydd ar ddod yng Nghymru.

Agorwyd y gynhadledd gan Mared Jones, Pennaeth Gweithrediadau CAFC a chynrychiolydd Cymru i’r ASAO, a groesawodd yr aelodau’n ôl i Faes y Sioe ar gyfer cynhadledd ranbarthol gyntaf ASAO yn y cnawd yng Nghymru ers y pandemig coronafeirws. Rhoddodd David Tite Cadeirydd ASAO a Paul Hooper OBE o’r Ysgrifenyddiaeth ddiweddariad gan ASAO, gan amlinellu’r amrywiol faterion y mae’r aelodau yn eu hwynebu a’r newidiadau yn y rheoliadau.

Cafwyd diweddariad gan Heledd Williams o Groeso Cymru ar sut y mae sioeau a digwyddiadau amaethyddol yn cefnogi’r economi ymwelwyr yng Nghymru, ac i ddilyn cafwyd hyfforddiant digwyddiadau gwledig LANTRA gan ymgynghorydd iechyd a diogelwch, Cathy Ricketts.

Ymunodd yr Athro Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru â’r gynhadledd yn rhithiol trwy Microsoft Teams i roi diweddariad ar les anifeiliaid a ffliw’r adar. Ymunodd Delme Harries, Cyfarwyddwr Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro trwy Teams hefyd i sôn am barhad sioeau amaethyddol ar ôl y pandemig, a’r newidiadau y mae Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro wedi’u mabwysiadu er mwyn lleihau gwariant a sicrhau sefydlogrwydd ariannol at y dyfodol. Rhoddodd Delyth Brown o Lywodraeth Cymru ddiweddariad ar Adnabod Da Byw a symudiadau.

Daeth y gynhadledd i ben gyda chyflwyniad gan Steve Hughson, Prif Weithredwr CAFC ble soniodd am y dyfodol i sioeau amaethyddol, y cyfleoedd sydd gennym yn y byd cyfoes, a sut olwg allai fod ar y 10, a’r 100 mlynedd nesaf i sefydliadau amaethyddol.

Roedd Cynhadledd Ranbarthol Cymru ASAO yn ddiwrnod llwyddiannus i’r aelodau glywed diweddariadau pwysig ac i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth ymhlith ei gilydd.

Meddai Mared Jones, Pennaeth Gweithrediadau CAFC, “Roedd hi’n wych croesawu Sioeau Amaethyddol Cymru yn ôl i Faes Sioe Frenhinol Cymru unwaith eto yng Nghynhadledd flynyddol ASAO Cymru. Roedd yn gyfle i bawb weld ei gilydd wyneb yn wyneb, ac i rwydweithio, rhannu a dysgu.  Dymunwn dymor sioeau llwyddiannus i’r holl drefnwyr yr Haf yma.”