2018 Sir Drefaldwyn

Dilynwch dudalen ein Sir Nawdd eleni - mae nifer o ddigwyddiadau codi arian dros y misoedd nesaf!

Llywydd 2018, Tom a Ann Tudor, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Sir Drefaldwyn, Anwen Orrells a Llysgenhades, Cathrin Roberts

Tom R Tudor MBE FRAgS
Llywydd 2018,
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Does dim mwy o fraint ac o anrhydedd i ffermwr o Gymru na chael ei ethol yn Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Dymunaf ddiolch i bobl Sir Drefaldwyn am eu cefnogaeth a’u hymdrechion wrth godi arian, yn hyrwyddo ein sir ein hunain a Sioe Frenhinol Cymru.

Sir wledig yw’n sir ni, wedi’i lleoli yng nghalon Cymru ac mae cynhesrwydd y bobl a’i bryniau tonnog esmwyth wedi’I grynhoi yn Gymraeg gan y dywediad ‘Mwynder Maldwyn’. Sir amaethyddol yw hi i raddau helaeth iawn, yn cynnal ein bywyd cymunedol ac yn cynnal ein hiaith a’n diwylliant.

Mae sefydliadau amaethyddol yn chwarae rhan bwysig iawn ac yn dibynnu ar ymdrechion a chyfraniadau gwirfoddol gan lawer o bobl. Mae yna 18 o Glybiau Ffermwyr Ifanc yn Sir Drefaldwyn, wyth o sioeau amaethyddol a garddwriaethol, tair cymdeithas tir glas lwyddiannus, a chystadlaethau fferm Cymdeithas Amaethyddol Sir Drefaldwyn, i enwi ond ychydig. Mae ein lleoliad canolog yn golygu bod llawer o gymdeithasau bridiau defaid a gwartheg yn cynnal cyfarfodydd yn Sir Drefaldwyn hefyd.

Cefais fy ngeni yn fab i denant ar fferm fynydd yng Nghwm Nant yr Eira, Llanerfyl. Defaid oedd y brif fenter, felly tyfais i fyny yn bugeilio ac yn hela defaid at ei gilydd ar gefn ceffyl. Roedd y bryniau agored yn golygu bod hyn yn amlach na pheidio yn golygu gweithredu fel tim, gyda chymdogion da a chŵn da!

Roedd hwyl yr holl ffermwyr yn dod at ei gilydd ar gyfer cneifio a diwrnodau’r cynhaeaf yn creu ymdeimlad cryf o berthyn, sy’n aros gyda mi hyd heddiw. Doedd yna ddim teleffonau yn yr ardaloedd mynyddig hyn, felly byddwn yn aml yn cael fy anfon fel y gwas negesau ar gefn ceffyl.

Rwyf yn cofio fy mod, yn fachgen 11 mlwydd oed, yn gorfod mynd a'r gefn ferlen pum milltir dros y mynydd i fynd i nol pedwar o wartheg, gyda dim ond ci yn gwmni. Ers pan oeddwn yn ifanc, doedd arnaf ddim eisiau dim byd yn fwy na bod yn ffermwr.

Roedd fy nhad yn credu ym mhwysigrwydd addysg ac fe’m hanfonwyd i letya fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Tywyn. Edrychaf yn ol yn annwyl ar fy amser yno. Roedd gennyf ffrindiau da (a braidd yn ddireidus!), athro amaethyddiaeth ysbrydoledig a threuliwyd unrhyw oriau hamdden yn chwarae rygbi.

Y cynllun oedd mynd i goleg amaethyddol ar ol gadael ysgol, ond doedd hynny ddim i fod. Roeddwn yn 17 pan fu farw fy nhad, gan fy ngadael i ymgymryd a’r cyfrifoldeb llawn o redeg y fferm gyda fy mam. Roedd hynny’n her, ond roeddwn yn ffodus o fod a rhwydwaith teuluol clos a chymdogion rhagorol.

Chwe blynedd brysur yn ddiweddarach, pan oeddwn ar fin priodi, cawsom y cyfle i brynu Llysun. Fe wnaethom hynny ar ddydd Mercher, cyn priodi ar y dydd Sadwrn, yn ol ym mis Medi 1968.

Dim ond wrth feddwl o ddifrif yr wyf yn sylweddoli arwyddocad a graddfa’r fenter a oedd gennym o’n blaenau, ond nid ydym erioed wedi edrych yn ol. Yn cael ein cynnal gan gyfnod o gymorth amaethyddol sylweddol i gynhyrchu mwy, fe wnaethom achub y cyfle i ddatblygu’r fferm yn seiliedig ar ddefnyddio’r tir glas hyd yr eithaf wrth gynhyrchu biff a defaid.

Gwelodd y cyfnod cyffrous hwn yn fy mywyd ni’n cael ein bendithio a thri o blant, Catherine, Richard a Huw. Heddiw, mae gennym y pleser o un wyres a thri ŵyr.

Roeddwn yn cydnabod o’m dyddiau cynnar yn ffermio werth a phwysigrwydd cydweithredu. Daliais ar gyfleoedd i weithio gyda’n gilydd er budd y diwydiant, o Gymdeithas y Defaid Hanner Brid Cymreig a’r Bridwyr Defaid Miwl Cymreig a’u rhan wrth wella perfformiad mamogiaid magu, i Gymdeithas Tir Glas Bro Ddyfi a gweithio i bwysleisio pwysigrwydd defnyddio glaswellt.

Ni chaiff y cydweithrediad hwn ei amlygu’n well yn unlle na gyda gweithgareddau hyrwyddo Menter Ŵyn Cymru. Fe wnaethom ei sefydlu fel sefydliad ffermwyr gwirfoddol yn nechrau’r wythdegau, i hybu a marchnata cig oen Cymreig yn Ewrop.

Roedd lefi gwirfoddol o 4c y ddafad yn galluogi i gig oen Cymreig gael ei hybu fel cynnyrch unigryw am y tro cyntaf, gan ei wahaniaethu oddi wrth gig oen Prydeinig. Rwyf yn falch hefyd o’m cyfranogiad yn y bartneriaeth a ffurfiwyd rhwng Waitrose a chynhyrchwyr ŵyn Cymru yn y nawdegau cynnar ac rydym yn dal i’w cyflenwi a chig oen.

Un o’m hatgofion cynharaf oedd fy nhad yn dangos Defaid Mynydd Cymreig yn Sioe Frenhinol Cymru ym Machynlleth. Rwyf yn cofio Sioeau Brenhinol Cymru ym Machynlleth ac yn Aberystwyth yn dioddef llifogydd.

Roedd yna un siwrnai arbennig o gofiadwy i lawr i Sioe Frenhinol Cymru yn Hwlffordd yn 1955. Fe wnaethom deithio yno ac yn ol ar yr un diwrnod mewn car Standard Vanguard.

Roeddem yn falch ac yn ffodus o gyrraedd adref yn ddiogel, gan fod fy nhad yn hepian cysgu! Byddai’r Sioe bresennol a’i chyfleusterau anhygoel yn sicr yn cael eu canmol yn uchel a’u cymeradwyo gan sylfaenwyr cynnar y Sioe.

Mae cyfoeth y dirwedd naturiol yn Sir Drefaldwyn ac yng Nghymru yn rhoi inni’r adnoddau i ymladd effeithiau newid hinsawdd, wrth inni gynhyrchu ffynhonnell protein mewn cig eidion a chig oen trwy ddefnyddio porfeydd ein bryniau a’n hucheldiroedd. Mae’r maint o ddŵr sydd a’i ansawdd yn dod yn ffactorau cyfyngol yng nghynhyrchiant bwyd y byd, felly rydym wedi ein lleoli’n ddelfrydol i fwydo poblogaeth gynyddol sy’n mynnu’r bwyd iachaf, a’r sicrwydd lles uchaf.

Mae rhan da byw wrth gynnal y clytwaith cerdyn darluniadol o gaeau a dyffrynnoedd yn hanfodol i gynaliadwyedd ein byd. Mae’n hanfodol hefyd i gynaliadwyedd ein hardaloedd gwledig, gan gynnal pobl a’n cymunedau.

Teimlaf yn ffodus o fod wedi ffermio trwy gyfnod heddychlon yn hanes ein gwlad a chyfnod ffrwythlon iawn mewn amaethyddiaeth, ble oedd cynhyrchu’n cael ei annog.

Heddiw, mae gennym ansicrwydd a chymhlethdodau Brexit i’w trafod. Er fy mod yn cytuno a’r angen i reoli ein polisiau ein hunain fel gwlad, rwyf yn teimlo ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a chydweithredu a’n cymdogion yn Ewrop.

Yn bendant nid oes arnom eisiau tariffau ar ein hallforion gan y byddai’n cael effaith dra niweidiol ar ein diwydiant, ac yn arbennig ar ein cig oen Cymreig. Rhaid i fasnach esmwyth gyda’n prif bartneriaid masnachu fod yn flaenoriaeth.

Wrth inni wylio’r newyddion o bob cwr o’r byd, mae’n glir ein bod yn byw mewn amseroedd anwadal ac ansicr iawn, gyda gwrthdaro dinistriol mewn llawer rhanbarth. Mae prinder dŵr a bwyd a phlastigau’n niweidio ein cefnforoedd i gyd yn amlygu’r ol troed dynol mwyfwy niweidiol ar ein planed.

Rhaid i’n hymateb i’r materion gofidus hyn fod i ddiogelu’r cyflenwad bwyd i’n pobl a chymryd rheolaeth ar ein tynged ein hunain. Rhaid rhoi blaenoriaeth i gynhyrchu bwyd, yn gynaliadwy, ac yma yng Nghymru rydym mewn safle delfrydol i gyflawni’r ‘daioni cyhoeddus’ hanfodol hwn. Mae i ffermio yng Nghymru ddyfodol cyffrous ac rwyf yn hyderus y bydd ein ffermwyr yn cyflawni ar bob ffrynt.

Sioe Frenhinol Cymru yw uchafbwynt y calendr ffermio ac mae’n ffenestr siop anhygoel i arddangos i weddill y byd yr hyn sydd gan Gymru a’i ffermwyr i’w gynnig. Mae model

cydweithredol yr holl siroedd yn dod at ei gilydd dan gyfarwyddyd cyfarwyddwyr y Sioe a’u tim o staff yn gyrru’i llwyddiant ac yn enghraifft berffaith o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn gweithio gyda’i gilydd.

Mae’r Sioe yn creu ynof deimlad ysgubol o falchder. Balch o fod yn ffermwr, balch o fod yn Gymro a balch o fod yn rhan o gymuned ardderchog Sioe Frenhinol Cymru.

Cathrin Roberts
Llysgenhades y Gymdeithas 2018, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mae hi’n fraint ac yn anrhydedd fawr imi ysgrifennu’r adroddiad yma fel Llysgenhades Sir Drefaldwyn y Gymdeithas ar gyfer 2018. Mae hi’n swydd yr wyf wedi breuddwydio amdani erioed a theimlaf hi’n anrhydedd enfawr cael fy ethol yn Llysgenhades y Gymdeithas wych yma.

Merch o Sir Drefaldwyn ydwyf, wedi fy magu yn Nhrefeglwys a’m hamgylchynu gan fy nheulu agos. Euthum i Ysgol Gynradd Trefeglwys, yna i Ysgol Uwchradd Llanidloes ac, ar ôl gadael ysgol, dechreuais weithio fel cynorthwyydd cyfrifon yn Whittingham Riddell LLP. Rwyf wedi bod gyda’r cwmni am yr 11 mlynedd ddiwethaf ac rwyf bellach yn rheolwr cyfrifon wedi fy lleoli yn swyddfa’r Drenewydd, yn gweithredu dros gleientiaid amaethyddol a chleientiaid masnachol.

Rwyf wedi mynychu Sioe Frenhinol Cymru ers pan oeddwn yn ifanc ac rwyf yn cofio aros yn y garafan yn y Sioe ar Fryn y Stocmyn gyda Mam, Dad a Sarah, fy chwaer. Byddai Mam a Dad yn dangos eu defaid Rouge ac roedd hi bob amser yn wythnos y byddem yn edrych ymlaen ati fel teulu. Symudais ymlaen i ddangos ceffylau yn y Sioe ac rwyf yn dal i wneud hyn.

Mae ceffylau’n rhan fawr o’m bywyd ac rwyf wedi dilyn camre’r teulu trwy ddangos ceffylau ers pan oeddwn yn tua phedair oed. Rwyf yn treulio’r rhan fwyaf o benwythnosau’r haf yn y lori, yn teithio’r wlad i sioe.

Bu mudiad y Ffermwyr Ifanc yn rhan sylweddol o’m bywyd. Bûm yn aelod gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Trefeglwys, gan gystadlu i’r clwb, yn sirol ac yn genedlaethol mewn amrywiol gystadlaethau. Rwyf bellach yn arweinydd y clwb ac yn drysorydd y sir.

Mae Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc yn bwysig iawn yn y gymuned amaethyddol, gan ddarparu cyfleoedd addysgol, cyfleoedd hyfforddi a chyfleoedd cymdeithasol gwych. Mae’r sgiliau yr wyf wedi’u dysgu trwy’r mudiad wedi helpu yn fy swydd fel Llysgenhades ac mae hi’n wych gweld mudiad y Ffermwyr Ifanc a’r Gymdeithas yn gweithio gyda’i gilydd mor agos.

Fel darpar Lysgenhades yn 2017, cefais y cyfle i gyfarfod cymaint o bobl weithgar ac ysbrydoledig.   Mae wedi gwneud imi sylweddoli faint o waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r llenni ym mhob un o’r digwyddiadau.

Hoffwn ddiolch i Georgina a holl staff CAFC am y cyngor caredig a’r gefnogaeth y maent wedi’i roi imi. Rwyf wedi llwyr fwynhau fy amser fel darpar Lysgenhades ac mae wedi fy mharatoi i’n dda.

Hoffwn ddiolch hefyd i bwyllgor ymgynghorol Sir Drefaldwyn am yr holl gefnogaeth yr wyf wedi’i derbyn.  Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn yn awr at y flwyddyn o’n blaenau ac i fod yn cynrychioli Sir Drefaldwyn yn ein blwyddyn Sir Nawdd.